Mae arweinydd Plaid Cymru’n annog cefnogwyr datganoli o bob plaid i “roi eu ffydd ym Mhlaid Cymru” er mwyn “rhoi hwb i ddemocratiaeth”.

Daw galwadau Rhun ap Iorwerth heddiw (dydd Llun, Mehefin 26), wrth iddo alw ar bobol i sefyll yn erbyn “y sawl sydd eisiau llusgo Cymru yn ôl i reolaeth uniongyrchol San Steffan”.

Mae’r arweinydd newydd wedi tynnu sylw at bleidlais ddiweddar yn y Senedd pan bleidleisiodd 38 aelod i wrthod Mesur Mewnfudo Anghyfreithlon Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan ei fod yn cael effaith ar faterion sydd wedi’u datganoli.

Pleidleisiodd 15 Aelod o’r Senedd o blaid cymeradwyo’r mesur.

Ers 2020, mae’r Senedd wedi gwrthod rhoi cydsyniad i ddeng mesur o San Steffan sydd, yn ôl Plaid Cymru, yn “ymyrryd â chymwyseddau datganoli”.

Fodd bynnag, dywed Rhun ap Iorwerth nad ydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig “erioed” wedi diddymu deddfwriaeth wedi i’r Senedd wrthod rhoi cydsyniad iddi.

‘Adeiladu Cymru fwy hyderus’

Gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, rywbryd cyn Ionawr 2025, mae Rhun ap Iorwerth yn dweud na fydd Cymru “yn ddim ond ôl-nodyn i Keir Starmer” pe bai’r Blaid Lafur yn dod i rym.

“Mae fy ngweledigaeth gadarnhaol o Gymru yn ein gweld yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ein dyfodol ein hunain,” meddai Aelod o’r Senedd Ynys Môn.

“Mae’n amlwg fod gwrthwynebwyr datganoli eisiau ein llusgo’n ôl i reolaeth uniongyrchol gan San Steffan.

“Ers Brexit, mae’r Torïaid wedi erydu yn ddi-baid ein setliad datganoli y brwydrwyd drosto mor galed, gan ddileu ein hymreolaeth fesul dipyn.

“Yn y cyfamser, nid yw Llafur yn cynnig dim i Gymru ond briwsion cyfansoddiadol.

“Fel arweinydd Plaid Cymru, rwyf eisiau i bobol Cymru roi ffydd ynom i hybu ein democratiaeth, fel y gallwn adeiladu Cymru fwy hyderus, tecach, mwy gwyrdd a mwy ffyniannus.”

‘Tanseilio hanfod ein democratiaeth’

Wrth gyfeirio at y Mesur Mewnfudo Anghyfreithlon, dywed Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth San Steffan yn “anwybyddu penderfyniadau democrataidd” Senedd Cymru.

“Allwn ni ddim goddef bellach yr erydu hwn ar ein setliad datganoli,” meddai.

“Mae gweithredoedd y Torïaid yn tanseilio hanfod ein democratiaeth Gymreig.

“Ac er bod Llafur yn llawn geiriau teg am ddatganoli, nid yw eu cynlluniau yn gwneud dim i newid y ffaith fod ein Senedd yn dal yn israddol i San Steffan.

“Mae adroddiad diweddar y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Gyfunol yn cynnal egwyddor dreuliedig Goruchafiaeth Seneddol, sy’n caniatáu i San Steffan wrthdroi penderfyniadau a wnaed gan ein Senedd ni yng Nghymru.

“Efallai yn wir fod gan y Prif Weinidog Mark Drakeford weledigaeth o’r Deyrnas Gyfunol fel partneriaeth gyfartal rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond Llafur y Deyrnas Gyfunol a Keir Starmer sy’n llywio’r cwch.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid na chymer ei thawelu gan arian o Lundain.

“Dyma’r neges rwyf i am ei roi i bawb sy’n pleidleisio i Lafur Cymru: rwy’n rhannu eich awydd i droi’r Llywodraeth Dorïaidd hon allan.

“Fe wn eich bod chithau hefyd yn dyheu am well dyfodol i Gymru. Ond heb grŵp cryf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru, ni fydd Cymru yn ddim ond ôl-nodyn i Keir Starmer.

“Rwy’n erfyn arnoch i roi eich ffydd ym Mhlaid Cymru, i ddal Llafur i gyfrif, i hybu ein democratiaeth – gan sicrhau y bydd penderfyniadau allweddol am ein heconomi, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a’n dyfodol cyfansoddiadol, yn cael eu gwneud yng Nghymru.

“Ac i bawb sy’n cefnogi datganoli, waeth i bwy y maent wedi bwrw eu pleidlais yn y gorffennol, gadewch i ni sefyll dros y gwerthoedd hynny sy’n rhan annatod o ddemocratiaeth Cymru.”