Bydd y rhan fwyaf o strydoedd sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ymhen tri mis.

Mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru wedi cyfeirio at y cam fel y “newid mwyaf ym maes diogelwch y gymuned yng Nghymru mewn cenhedlaeth”.

Daw’r newid, fydd yn dod i rym ar Fedi 17, ar ôl pedair blynedd o waith rhwng awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ffordd.

Mae’r newid hwn yn dilyn cam tebyg yn Sbaen lle cafodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd ei newid i 30km/a yn 2019.

Ers hynny, mae 20% yn llai o farwolaethau wedi’u cofnodi ar ffyrdd trefol yn Sbaen, gyda 34% yn llai o feicwyr a 24% yn llai o gerddwyr yn cael eu lladd.

Er y dadleuon y bydd y cam yn achub bywydau, mae rhai wedi gwrthwynebu’r newid gan honni ei fod wedi achosi “anhrefn” mewn ardaloedd lle cynhaliwyd peilot.

Y llynedd fe wnaeth bron i 40,000 o bobol arwyddo deiseb yn gwrthwynebu gostwng y terfynau cyflymder. Fodd bynnag, dangosodd arolwg gan Lywodraeth Cymru bod 80% o oedolion Cymru’n cefnogi terfyn cyflymder o 20mya yn yr ardal maen nhw’n byw ynddi.

‘Achub bywydau’

“Rydyn ni brin tri mis o’r newid mwyaf rydym wedi’i weld ym maes diogelwch y gymuned yng Nghymru mewn cenhedlaeth,” meddai Lee Waters.

“Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Rydym yn gofalu am ein gilydd ac yn ymddiried yn y wyddoniaeth.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cerbyd sy’n teithio 30mya yn dal i fynd 24mya yn yr amser y daw car sy’n teithio 20mya i stop.

“Yn ogystal ag achub bywydau, mae gyrru’n arafach yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy diogel – llefydd gwell i fyw ein bywydau ynddyn nhw.”

‘Arbed £92m y flwyddyn’

Mae’r ymchwil yn dangos y gallai terfyn cyflymder o 20mya arbed £92m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru wrth i lai gael eu lladd a’u hanafu.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi codi cwestiynau am gost y newidiadau, gydag amcangyfrifon yn awgrymu y bydd y ddeddfwriaeth yn costio tua £33m i Lywodraeth Cymru.

Gallai hefyd leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth i’r nifer sy’n cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ostwng.

Dros y degawd cyntaf, amcangyfrifir y bydd y terfyn cyflymder is yn achub hyd at 100 o fywydau, gydag 20,000 yn llai yn cael eu hanafu.

Dywed y Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod nhw’n bleidiol iawn i’r newid.

“Mae’r dystiolaeth yn glir bod arafu’r traffig yn esgor ar lawer o fanteision o ran iechyd a lles,” meddai.

“Mae’n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, yn lleihau llygredd sŵn a thros amser, bydd yn lleihau llygredd aer.

“Bydd yr amgylchedd mwy diogel a ddaw yn sgil traffig arafach yn annog mwy o bobl i deithio’n egnïol er enghraifft trwy gerdded a beicio i’r gwaith a’r ysgol.

“Mae teithio egnïol yn cynnig pob math o fanteision i bob rhan o gymdeithas, trwy wella iechyd corfforol a meddyliol a lleihau’r galw ar ein gwasanaethau iechyd i drin llawer o afiechydon y gellir eu hosgoi.”

Ar hyn o bryd, dim ond 2.5% o ffyrdd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 20mya. Mae disgwyl i hyn gynyddu i 35% ym mis Medi.