Roedd ymweliad â San Steffan yn “gyfle anhygoel i ddeall am wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig”, yn ôl Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion.
Bu Ifan Meredith, Cadeirydd y Cyngor Ieuenctid, ac Aled Lewis, Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion, yn Llundain ganol y mis.
Cafodd Ifan, sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr, ac Aled, sy’n mynd i Ysgol Gyfun Aberaeon, daith o amgylch San Steffan gan eu Haelod Seneddol, Ben Lake.
Yn ogystal, fe gawson nhw sesiwn holi ac ateb, cyfarfod staff ac Aelodau Senedd eraill, a chyfle i wrando ar ambell ddadl yn y siambr.
Roedd y daith yn gyfle i bobol ifanc ddysgu am hanes Palas Westminster, gwaith Senedd y Deyrnas Unedig, a’r ffyrdd y gall pobol ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.
“Cyfle anhygoel”
Gobaith Ifan Meredith ydy dilyn gyrfa fel newyddiadurwr, ac roedd y profiad yn fuddiol iddo gael gweld “beth sy’n mynd ymlaen tu ôl i’r llen yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig” er mwyn ehangu ei wybodaeth a’i baratoi.
“Roedd yn gyfle da i gwrdd â Ben Lake a mynd lawr yr holl goridorau yn San Steffan i allu gweld yr ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol mawr i hanes ein gwlad ni hefyd,” meddai wrth golwg360.
Er ei fod wedi mwynhau’r profiad, newyddiadura am wleidyddiaeth yw ei nod yn hytrach na bod yn Aelod Seneddol.
Pobol ifanc a gwleidyddiaeth
Mae ymgysylltiad pobol ifanc â gwleidyddiaeth yn fater pwysig i Ifan Meredith, ac yn ddiweddar mae pobol ifanc Ceredigion wedi bod yn rhan o ddigwyddiad ‘Rhoi Dy Farn’.
Ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth dros 2,000 o bobol ifanc y sir bleidleisio dros y pynciau sydd bwysicaf iddyn nhw, ac mae’r canlyniadau hynny’n llywio blaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid yn ystod 2023.
“Cafodd pynciau llosg eu cyhoeddi nôl yn fis Chwefror i bobol ifanc Ceredigion gael pleidleisio am flaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid am y flwyddyn nesaf,” eglura Ifan Meredith.
Ers 2021, mae pobol ifanc 16 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cyngor – cam sydd i’w groesawu, meddai.
“Mae hwnnw’n ffordd dda i ni allu hyrwyddo gwleidyddiaeth.
“Byddai e’n dda petaen ni’n gallu hyrwyddo gwleidyddiaeth o fewn ein hysgolion ni wedyn fel bod y troad allan yn uwch.
“Cynrychioli’r ysgol ydw i ar Gyngor Ieuenctid Sir Ceredigion.
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi allu bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid ac mae cadeirio’r cyfarfodydd yn sicrhau bod llais disgyblion yn cael eu clywed ledled Ceredigion, ac mae’n rhan o ddeddfwriaeth hawliau plant hefyd fod yna Senedd neu Gyngor o’r fath ar gael.”
Annibyniaeth i Gymru
Un o’r materion llosg ar hyn o bryd yw annibyniaeth, ac er bod Ifan yn credu y dylid datganoli rhagor o bwerau dydy’r disgybl ddim yn credu y dylid rhoi annibyniaeth lawn i Gymru.
“Fel rhywun sy’n Gymro i’r carn efallai bydd yn sioc i chi ond byddwn i ddim yn cytuno efo annibyniaeth yn llawn,” meddai.
“Dw i’n credu mai mwy o bwerau datganoledig sydd angen arnom ni fel gwlad o fewn y Deyrnas Unedig.
“Wrth gwrs bydden i’n cefnogi datganoli dŵr er enghraifft, datganoli darlledu hefyd, datganoli trefn gyfreithiol i Gymru yn hytrach na bod y pwerau wedi eu cadw yn San Steffan.”
“Diolchgar”
Mae Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobol Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yn pwysleisio cyfle mor dda oedd hwn.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Ben Lake a’i swyddfa am roi cyfle mor wych i ni eto eleni,” meddai.
“Fe wnaethon ni fwynhau teithio i Lundain a threulio’r prynhawn gydag ef, yn cael golwg ‘tu ôl i’r llenni’ o ystâd Seneddol San Steffan, a dysgu mwy am rôl Aelodau Seneddol a’u gwaith.
“Cafodd y bobl ifanc eu hysbrydoli gan y cyfle ac fe wnaethon ni fwynhau’r profiad yn fawr.
“Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu a chymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac mae hon yn un o sawl ffordd y gallwn gefnogi’r ymgysylltiad hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar i’n AS lleol Ben Lake am ei gefnogaeth barhaus i alluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn.”