Bydd Côr Cymry Gogledd America yn mynd ar daith o amgylch Cymru, ac yn perfformio mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad er mwyn dathlu pen-blwydd y côr yn 25 mlwydd oed.

Mae dros hanner y côr yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2020, ac mae’r cantorion yn cynnwys disgynyddion i fewnfudwyr o Gymru.

Bydd y côr sydd â hanner cant o aelodau, sy’n cynnwys cantorion o dros 17 talaith yn yr Unol Daleithiau a thair talaith yng Nghanada, yn ymweld â Chymru rhwng Gorffennaf 1 ac 8, a hon fydd eu taith fwyaf o amgylch Cymru ers 2002.

Cafodd y côr ei sefydlu yn 1998 gan Dr Mari Morgan, sy’n hanu o Lanelli, ac mae hi wedi arwain llu o gymanfaoedd canu ar draws yr Unol Daleithiau a Chanada, yn yr Ariannin, ac yn Seland Newydd.

Dysgu am ddiwylliant a barddoniaeth Cymru

Cyn y pandemig, roedd y côr yn cyfarfod yn flynyddol, ond newidiodd popeth oherwydd Covid, fel yr eglura Dr Mari Morgan.

‘‘Roedd 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer i ni fel côr!” meddai.

“Cyn hynny ro’n ni’n dod at ein gilydd unwaith y flwyddyn, ac unwaith y tymor ar lefel ranbarthol.

“Ond pan ddaeth Covid-19, ro’n i’n cyfarfod bron bob wythnos i ganu a chryfhau’r gymdeithas o fewn y côr.’’

Erbyn hyn, maen nhw’n cyfarfod bob wythnos ar-lein, ac yn dysgu am ddiwylliant a barddoniaeth Cymru, yn ogystal â dysgu Cymraeg llafar, gan gynnwys ynganu a phatrymau iaith sylfaenol, wedi eu seilio ar y cwrslyfrau sydd wedi eu datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

‘Rhoi ystyr i ganeuon ac emynau’

Mae Lisa Hopkins yn byw yn Pennsylvania, ond mae ei theulu’n hanu o Gymru.

Wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, mae hi bellach yn diwtor Dysgu Cymraeg.

‘‘Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn deall mwy am fy nhreftadaeth,” meddai.

“Hefyd, mae gallu darllen Cymraeg yn rhoi mwy o ystyr i ganeuon ac emynau Cymraeg.

“Dw i wedi bod yn dysgu cwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr ers dwy flynedd.

“Mae’n braf gweld cariad y criw tuag at y Gymraeg.

“Mae gweld hyder y dysgwyr yn datblygu wrth siarad Cymraeg yn rhoi boddhad mawr i mi.’’

‘Dipyn o brofiad’

Bydd y daith yn dechrau yn Eglwys Santes Mair yng Nghonwy nos Sadwrn (Gorffennaf 1), cyn mynd ymlaen i Aberystwyth (Gorffennaf 4), Aberteifi (Gorffennaf 5) a’r Fenni (Gorffennaf 8).

Un sy’n edrych ymlaen at y daith, ac at ymweld â gogledd Cymru yn arbennig yw Allison LaPointe.

Mae hi’n dod o St Paul ym Minnesota, ac yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd.

‘‘Dw i’n gyffrous iawn bod y daith yn dechrau yng ngogledd Cymru, achos mae fy nheulu yn hanu oddi yno,” meddai.

“Mi wnaeth fy hen daid symud i Utica, Efrog Newydd o’i gartref yn Nyffryn Ardudwy, gogledd Cymru.

“Dyma fy nhaith gyntaf i Gymru, felly mi fydd yn dipyn o brofiad.’’

Allison LaPointe