Mae’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi amddiffyn rheol iaith yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe ddaeth ei sylwadau yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 24).

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r dref ers 1956, a dyma hefyd oedd lleoliad yr Eisteddfod fodern gyntaf yn 1861.

Ond rai wythnosau yn ôl bellach, fe fu ffrae am y rheol iaith, ar ôl i’r perfformiwr Sage Todz dynnu’n ôl o’r Eisteddfod ar ôl cael gwybod y byddai’n rhaid iddo berfformio’n uniaith Gymraeg.

Mae Eadyth Crawford ac Izzy Rabey ymhlith y perfformwyr sydd wedi cefnogi safiad Sage Todz, gan fygwth peidio perfformio yn yr Eisteddfod oni bai bod y rheol iaith yn cael ei llacio.

Wrth siarad â golwg360 yn ddiweddar, dywedodd Sage Todz nad oedd y ddadl ynghylch iaith ond yn hytrach, amdano fe ei hun fel artist a’i hawl i fynegi ei hun.

‘Un Maes, un wythnos’

Ond wrth amddiffyn yr Eisteddfod a’r rheol iaith, dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd o’r Maen Llog fod “tanseilio’r Eisteddfod Genedlaethol a’r rheol Gymraeg yn chwalu cynefin cenedlaethol y Gymraeg”.

“Un Maes, un wythnos, dyna’i gyd mae’r rheol Gymraeg yn ei hawlio,” meddai.

“Mae un o ieithoedd y byd yn diflannu yn farw pob pythefnos, ac fel rheol colli cynefin yr iaith sy’n gyfrifol am y diflaniad.

“Mae ganddon ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau nad ydy hynny’n digwydd i’r Gymraeg.

“Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg newydd yn yr Eisteddfod a’r Orsedd – agor drysau, bod yn gymhwysol ydy holl hanfod yr Eisteddfod.”

Serch hynny, mae’n dweud mai “croesawu pobol ar yr iaith” yw bwriad yr Eisteddfod, er bod rhai wedi mynegi pryder y gallai’r rheol iaith droi rhai pobol i ffwrdd.

Beirniadu’r ymateb

Mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi beirniadu rhai cyhoeddiadau o fewn y wasg am y ffordd y cafodd y stori wreiddiol ei thorri.

Dywedodd wrth Radio Cymru fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 25) iddi hi a’i staff dderbyn negeseuon “annheg ac amhriodol” yn sgil y sefyllfa.

“Rwy’n teimlo, ar adegau, bod newyddiadura wedi troi’n clickbait a bo ni wedi colli golwg o’r gwir gan nad yw e’n gwerthu cystal, ac felly mae’r gair ‘gwahardd’ yn swnio’n well na ’mae yna drafodaeth neu benderfyniad na fydd yn cymryd rhan’.

“Dw i wedi dweud wrth staff, camwch yn ôl… mae’n rhaid i ni ddiogelu ein hartistiaid ni, bod yn glir o ran y croeso i’r ’Steddfod ond hefyd bod yn driw i’n rheol iaith ni.”

Ychwanegodd fod pobol wedi bod yn “haerllug ac yn bersonol iawn”, ac mae Eadyth Crawford ac Izzy Rabey hefyd yn dweud iddyn nhw dderbyn negeseuon sarhaus a hiliol yn dilyn y ffrae.


Cyhoeddi’r Eisteddfod – mewn lluniau

Rhan olaf taith yr Orsedd ar hyd strydoedd Aberdâr cyn iddyn nhw fynd i mewn i Stadiwm Ron Jones

 

Dyma’r Orsedd yn cyrraedd y stadiwm ar gyfer y seremoni

 

Robin McBryde, Ceidwad y Cledd, yn gorymdeithio o flaen y Cofiadur Christine James tuag at y Maen Llog

 

Mae’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn ei flwyddyn olaf yn y swydd, a daeth cadarnhad bod enw Mererid Hopwood wedi’i gyflwyno i’w olynu

 

Ar ganiad y corn gwlad…

 

Y gwir yn erbyn y byd. A oes heddwch?

Cymerodd dau o wynebau a lleisiau cyfarwydd y fro ran yn y seremoni…

Y canwr Lloyd Macey o Ynyshir yng Nghwm Rhondda, ddaeth i amlygrwydd drwy’r Deyrnas Unedig ar The X Factor

 

Y darlledwr Roy Noble yn darllen yn ei filltir sgwâr, ac yntau’n byw yn Llwydcoed

 

Derbyniodd yr Archdderwydd y Rhestr Testunau gan Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

 

Darllenodd y Cofiadur Christine James y sgrôl