Enw Mererid Hopwood fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd ar gyfer swydd Archdderwydd Cymru ar gyfer y cyfnod 2024 i 2027.

Bydd y cyfarfod hwnnw’n cael ei gynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Mererid Hopwood yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfa’r Brifwyl fel y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.

Mae’n un o’r criw dethol o feirdd a llenorion sydd wedi llwyddo i bontio rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, gan ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.

Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.

Bu’n fardd plant Cymru a derbyniodd wobr Tir na nÓg am un o’i nofelau i blant yn 2018.

Mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams.

Yn ei gwaith, mae’n Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac mae hi hefyd yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

Yn enedigol o Gaerdydd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Llanhari, yn nalgylch yr Eisteddfod yn 2024, a dyma’r ardal lle bydd hi’n cychwyn ar ei gwaith fel Archdderwydd.

Seremoni’r Cadeirio ar brynhawn dydd Gwener, Awst 11 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd.