Mae Menter Caerdydd wedi cadarnhau’n swyddogol mai ar safle newydd, mwy o faint na’r llynedd, ym Mharc Biwt y bydd Gŵyl Tafwyl 2023 yn cael ei chynnal ar benwythnos Gorffennaf 15-16.
Gyda dim ond mis i fynd tan yr hyn mae’r trefnwyr yn gobeithio fydd yr ŵyl fwyaf llwyddiannus yn ei hanes, dywed Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, ei fod “yn falchach nag erioed” fod y trefnwyr wedi gallu sicrhau y bydd Tafwyl unwaith eto yn rhad ac am ddim i bawb.
Cadarnhaodd y trefnwyr hefyd y bydd Tafwyl yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C am y tro cyntaf erioed, sy’n gam arall tuag at sicrhau bod yr ŵyl yn cyrraedd cynulleidfa ehangach, yn ôl Heulyn Rees.
Wrth ddiolch i holl bartneriaid yr ŵyl, ychwanega fod pawb sy’n ymwneud â Tafwyl yn edrych ymlaen at lwyfannu gŵyl sy’n fwy cynhwysol na phob un flaenorol, ac mai’r amcan yw denu cynulleidfa newydd yn ogystal â chroesawu’r selogion.
‘Mynd o nerth i nerth’
“Gyda dim ond mis i fynd, rydw i a phawb sydd ynghlwm â Tafwyl yn edrych ymlaen at fod ar safle newydd, gyda pherfformwyr newydd, a hynny oll am ddim,” meddai Heulyn Rees.
“Mae’r ffaith ein bod yn symud i leoliad mwy o faint ym Mharc Biwt yn dangos fod Tafwyl yn mynd o nerth i nerth, a’r gobaith yw y bydd y penwythnos yn fwy ac yn fwy cynhwysol na phob un sydd wedi mynd o’i flaen.
“Gyda’r esgid yn gwasgu i nifer o deuluoedd ledled Cymru, rwy’n falchach nag erioed fod Menter Caerdydd yn gallu cynnig arlwy mor amrywiol a chyffrous, a hynny heb orfod codi tâl mynediad o gwbl.
“Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosib heb gefnogaeth a haelioni ein holl bartneriaid a hoffwn ddiolch o galon i bob un am weithio gyda ni mor adeiladol unwaith eto eleni.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i S4C, fydd yn darlledu Tafwyl yn fyw am y tro cyntaf erioed, gan sicrhau fod yr arlwy yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
“Wrth edrych ymlaen at benwythnos llawn cerddoriaeth, dawns, sgwrsio a chelf, mae neges Tafwyl yn glir – dewch yn ôl, dewch am y tro cyntaf, dewch yn eich miloedd ac yn bwysicaf oll, dewch i fwynhau.”