Heno (nos Iau 22 Mehefin) mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni, cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.

Daeth y cyhoeddiad mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Corn Hir.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Mai 25-31.

“Braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr ar hyd yr Ynys yn y cyfarfod i wahodd Eisteddfod yr Urdd ’nôl i Ynys Môn yn 2026,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“2004 oedd y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont ac ymweld ag Ynys Môn.

“Fel mudiad, rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2026 ac yn diolch o galon i Gyngor Sir Ynys Môn, ein hieuenctid, a’r holl wirfoddolwyr am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth arbennig.”

‘Llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd yn lleol’

Un sydd wedi croesawu’r Eisteddfod i’r ynys yw Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn.

“Rydw i wrth fy modd bod Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi dewis Ynys Môn fel lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar gyfer 2026,” meddai.

“Mae eisoes llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd yn lleol i groesawu’r Eisteddfod – un o ddigwyddiadau ieuenctid mwyaf Ewrop – ac mae’n gyfle unigryw i arddangos Ynys Môn ar lefel genedlaethol.

“Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o’r Cyngor Sir am eu cefnogaeth unfrydol i ddod ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r Ynys.

“Rydym ni gyd yn cydnabod ei phwysigrwydd o ran ein pobl ifanc, yr economi leol a’r Gymraeg.”

Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â Maldwyn y flwyddyn nesaf, a bydd hi’n cael ei chynnal ar Fferm Mathrafal ger Meifo rhwng Mai 27 a Mehefin 1.

Parc Margam fydd y lleoliad yn 2025, y tro cyntaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yng Nghastell-nedd Port Talbot ers 2003.