Mae siaradwyr Cymraeg newydd wedi bod yn addurno mainc gyfeillgarwch i’w gosod yng Nghricieth ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Mae’r fainc yn dathlu Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor 1975, ac yn cynnwys geiriau’r cywydd buddugol ‘Eifionydd’ gan Evan Griffith Hughes.

Mae’r fainc, sydd y tu allan i lyfrgell y dref a chanolfan gymunedol Encil y Coed, hefyd wedi’i haddurno â choronau, cadeiriau ac aelodau’r Orsedd, ac yn dathlu’r ‘Awen’ sy’n rhan greiddiol o’r Eisteddfod.

Ffion Gwyn, darlithydd celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, fu’n cydlynu’r prosiect a hithau’n rhan o Gricieth Creadigol, prosiect celf gymunedol yn y dref.

Siaradwyr newydd yn dysgu am hanes yr Eisteddfod

Mae’r holl siaradwyr newydd fu wrthi’n addurno’r fainc yn hanu o ardal Dwyfor, ac maen nhw’n dysgu Cymraeg ar gwrs Lefel Mynediad 2 Dysgu Cymraeg Gogledd-orllewin Cymru ar gampws Pwllheli Coleg Meirion-Dwyfor.

Cawson nhw gyflwyniad ar hanes seremonïau a thraddodiadau’r Eisteddfod cyn mynd ati i baentio’r fainc.

“Wnes i fwynhau cymryd rhan yn y prosiect efo Ffion, a dysgu am yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai Adrian Edwards, un o’r siaradwyr newydd ar y cwrs.

Dywed Laura Cowley, un arall o’r siaradwyr newydd, ei bod yn “ffordd ryngweithiol o wrando ar dipyn bach o Gymraeg”.

“Diolch i chi Adran Gelf,” meddai un arall, Vikki Harvard.

“Rydan ni wedi cael amser gwych yn paentio’r fainc.”

Yn ôl un arall, Penny Marrington, “fel dysgwr Cymraeg (a Saesnes), ro’n i’n hapus iawn yn cael cymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod.”

Enillwyr Eisteddfod Genedlaethol 1975

Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor 1975 oedd yr Eisteddfod ddiwethaf yn yr ardal.

Enillydd y Gadair oedd Gerallt Lloyd Owen, ac aeth y Goron i Elwyn Roberts.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Moduan eleni.