Mae dynes 19 oed o’r Wyddgrug sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn creu gwaith celf ddigidol i godi arian at elusennau ers colli ei thaid.

Yn ystod cyfnod clo y collodd Nanw Maelor ei thaid, ac fe wnaeth hynny ychwanegu at y golled gan beri bod angen rhywbeth “ysgafn” arni i’w wneud.

Mae hi bellach yn cymryd comisiynau.

“Gwnes i ddechrau arlunio’n ddigidol yn ôl yn y cyfnod clo,” meddai Nanw Maelor wrth golwg360.

“Roeddwn yn 16, ac felly i fod wedi gwneud fy arholiadau TGAU.

“Gwnes i ffeindio fy hun efo lot o amser sbâr, ac yn dilyn marwolaeth fy nhaid ym Mai 2020, roedd angen rhywbeth i lenwi fy amser a ffocysu’r meddwl.

“Wrth gwrs, yn ystod cyfnod Covid roedd colli rhywun yn brofiad reit ynysig.

“Wrth gwrs roedd gennyf fy nheulu.

“Roedd yn hollol wahanol i golli rhywun mewn profiad arferol, byswn i’n meddwl.

“Rwy’n cofio’r diwrnod ar ôl i mi golli taid, cefais syniad a gwnes i ddechrau.

“Roeddwn yn gwneud celf efo mam yn hogan ifanc, ond erbyn roeddwn yn 16 roeddwn wedi colli diddordeb.

“Daeth yn ôl fel rhyw wyrth, roedd yn rhywbeth ysgafn i fi wneud yn fy amser sbâr.

“Doeddwn i ddim yn yr ysgol dim mwy, a doedd gennyf ddim gwaith i’w wneud.

“Roedd yn rywbeth ysgafn i mi wneud, a rhywbeth i mi fwynhau.”

Elusennau

Mae hi bellach wedi codi arian ar gyfer nifer o elusennau amrywiol.

“Dechreuodd o fel hobi, ond dros y blynyddoedd diwethaf rwy’ wedi cyfuno’r diddordeb efo gwaith elusennol,” meddai.

“Rwy’ wedi gwerthu cardiau a phrints o’m lluniau er budd elusennau lleol, ar y cyd efo cwmni cyfrifwyr fy mam, ac wedi cwblhau comisiynau am ddim ar gyfer Ysgol Pen Barras a chanolfan gymunedol leol.

“Yn yr haf yn 2020, cafodd mam syniad o werthu cardiau.

“Roeddwn wedi gwneud cardiau Nadolig er budd yr hosbis yn Llanelwy, ac rwy’ wedi gwerthu cardiau Nadolig a phrints er eu mwyn nhw.

“Ychydig o flynyddoedd yn ôl, buodd yna ferch farw mewn damwain car ac roeddwn yn codi arian i greu ffenest iddi hi.

“Mae mam yn gwneud boreau coffi, ac rwy’ wedi gwneud dyluniad ar ei chyfer hi.

“Yn ogystal, mi wnes i ddylunio crys-T ar gyfer taith gerdded er budd hosbis lleol, a llynedd enillais i wobr gan Gyngor Tref yr Wyddgrug am y gwaith elusennol.”

“Rwy’n parhau i wneud darluniau yn fy amser sbâr, a bellach yn y brifysgol yn Aberystwyth yn astudio’r Gymraeg,” meddai wedyn.

“Gan fod gen i gymaint o amser rhydd dros yr haf ar ôl gorffen fy mlwyddyn gyntaf, penderfynais i hysbysebu fy ngwaith er mwyn gweld os oedd gan unrhyw un ddiddordeb mewn comisiynu gwaith.”