Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris yn dweud y byddan nhw’n cefnogi Pride y Bont-faen eleni, gyda Gŵyl Ffilm Fach Gwobr Iris unigryw yn Neuadd y Dref y Bont-faen heno (nos Fercher, Mehefin 21).

Bydd yr ŵyl yn cynnwys première byd Am Byth, ffilm fer gan Iris yn y Gymuned mewn partneriaeth â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac mae’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae Gwobr Iris wedi curadu detholiad o ffilmiau byrion LHDTC+ gafodd eu saethu yn yr ardal leol ac sy’n dathlu talent o Gymru i’w rhannu gyda Pride y Bont-faen.

Bydd ffrindiau o’r Queer Emporium yn rhedeg bar sydd wedi’i noddi gan Bont Gin, ac yn codi arian ar gyfer Trans Aid Cymru.

Mae tocynnau i’r dangosiadau yn rhad ac am ddim.

‘Dim ond dechrau rhywbeth arbennig iawn’

“Mae Pride y Bont-faen yn falch iawn o fod yn cydweithio â Gwobr Iris ar ein gŵyl ffilm sydd ar ddod,” meddai Ian ‘H’ Watkins o Pride y Bont-faen.

“Rwy’n gefnogwr mor angerddol o’u gwaith.

“Rwyf wedi mynychu Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn y gorffennol a chefais fy synnu gan y talent.

“Rydw i mor falch o’n cydweithrediad a dim ond dechrau rhywbeth arbennig iawn yw hyn.”

Yn ystod y noson, sy’n dechrau gyda derbyniad carped coch, bydd tair ffilm yn cael eu dangos, sef Am Byth, Spoilers a Cardiff.

Yn dilyn y dangosiadau, bydd sesiwn holi ac ateb gyda sêr y ffilmiau, sef Stifyn Parri, Rebecca Harries a Lynn Hunter.

Ffilm gymunedol

Mae Gwobr Iris a Pride y Bont-faen yn cydweithio i greu ffilm fer LHDTC+ gyda’r gymuned yn y Bont-faen.

Gyda’r rhoddion hael fydd wedi’u casglu yng Ngŵyl Ffilm Fach Gwobr Iris yn Pride y Bont-faen 2023, bydd Iris yn gweithio’n agos gyda grŵp lleol i greu’r ffilm fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Pride y Bont-faen y flwyddyn nesaf.

“Rwyf wedi clywed llawer o bethau da am Pride y Bont-faen ac mae ychwanegu gŵyl ffilm fach yn swnio fel y peth iawn i’w wneud,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris.

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Ian, sydd yn amlwg â gormod o egni i un person!

“Dylai’r carped coch fod yn hwyl cyn i ni setlo i lawr i wylio rhai ffilmiau byrion LHDTC+ anhygoel, gan gynnwys y première byd o Am Byth.

“Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn cychwyn ar ein cydweithrediad ffilm cyntaf gyda Pride y Bont-faen.

“Mae ein gwaith cymunedol yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri a byddwn wedi cynhyrchu 50 ffilm fer cyn bo hir!

“Mae Iris hefyd yn cynnal prosiectau addysg a gwaith maes cymunedol LHDTC+ yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig drwy gydol y flwyddyn.

“Edrychwn ymlaen at yr hyn y mae’r gymuned yn y Bont-faen yn ei greu i ni yn ddiweddarach eleni.”