Mae cyfieithiad o’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi torri tir newydd, wrth ennill Medal Yoto Carnegie.
Dyma’r tro cyntaf ers sefydlu’r gwobrau 90 mlynedd yn ôl i gyfieithiad o nofel ennill y wobr.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni gafodd ei ffrydio’n fyw o Theatr y Barbican heddiw (dydd Mercher, Mehefin 21), gyda The Blue Book of Nebo (Firefly Press) yn dod i’r brig.
Cafodd ei chyfieithu gan Manon Steffan Ros ei hun, ac mae’n adrodd hanes mam a’i mab ym mhentref Nebo ôl-apocalyptaidd, gan fynd i’r afael â Chymreictod a thrafod yr iaith.
Enillodd Llyfr Glas Nebo wobr Llyfr y Flwyddyn 2019, a llu o wobrau eraill.
‘Cyfoethog o dreftadaeth Gymreig’
Yn ôl Janet Noble, cadeirydd y panel o feirniaid, fe fu cryn drafod er mwyn penderfynu pwy sy’n cipio’r gwobrau eleni.
Maen nhw wedi canmol y cymeriadu a’r ffordd y caiff byd y cymeriadau ei adeiladu fel bod y darllenwyr “yn cwestiynu eu perthynas eu hunain â’r byd sydd ohoni”.
Mae Manon Steffan Ros wedi ennill Gwobr Tir na n’Og bedair gwaith, a hon yw ei nofel gyntaf yn Saesneg.
Tynnodd y beirniaid sylw at ei “gwerthfawrogiad o iaith, darllen a llenyddiaeth”, gan ddisgrifio’r nofel fel un sy’n “dorcalonnus”, “ingol” ac yn “gyfoethog o dreftadaeth Gymreig”.
Bydd Firefly yn cyhoeddi dwy nofel arall ganddi y flwyddyn nesaf, sef Feather (Pluen) a Me and Aaron Ramsey (Fi ac Aaron Ramsey).
Potensial cyfieithu llenyddiaeth
“Ro’n i’n arfer gweld y gair Carnegie ar gloriau fy hoff lyfrau yn blentyn, ac mae’r ffaith fod The Blue Book of Nebo bellach wedi cael yr anrhydedd honno’n golygu mwy nag y gallaf ddweud – ac mae bod y llyfr cyntaf i’w gyfieithu i ennill Medal Ysgrifennu Yoto Carnegie yn destun boddhad enfawr,” meddai Manon Steffan Ros.
“Un o freintiau mawr fy mywyd fu’r ffaith i mi gael fy magu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae bod â mynediad at ddwy iaith wedi dod â chymaint o lawenydd a chyfleoedd i mi.
“Mae yna sîn ddiwylliannol Gymraeg enfawr, fywiog sy’n ffynnu dw i’n teimlo’n freintiedig o gael bod yn rhan ohoni.
“Mae pob iaith yn cynnig persbectif unigryw a chyfoethog ar y byd, ac felly mae gan lenyddiaeth sydd wedi’i chyfieithu y potensial i gyfoethogi’n bywydau ni’n fawr iawn.
“Efallai nad yw eich hoff lyfr eto wedi’i gyfieithu i iaith rydych chi’n ei deall.”
Y wobr
Mae’r enillwyr yn derbyn gwerth £500 o lyfrau i’w rhoi i lyfrgell o’u dewis, a Gwobr Colin Mears gwerth £5,000, a medal aur newydd sbon.
Mae Manon Steffan Ros wedi penderfynu rhoi’r arian i Lyfrgell Tywyn, lle aeth hi ati i ysgrifennu rhai o’i nofelau pan nad oedd ganddi fynediad adref at y rhyngrwyd.