Mae S4C wedi ymddiheuro am “gamgymeriad difrifol” yn ystod eitem oedd yn trafod Sage Todz.

Tynnodd Sage Todz sylw at y camgymeriad ar Prynhawn Da ar ei dudalen Twitter, gan ddweud bod “rhaid gwneud yn well na hyn”.

“Dw i ddim yn edrych fel @macethegreat_ ac ro’n i yn y stiwdio yr wythnos ddiwethaf,” meddai, ar ôl i lun o’r rapiwr Mace the Great o Gaerdydd gael ei ddefnyddio yn ystod eitem am y rapiwr o Benygroes.

“Ni’n nabod hwn, on’d y’n ni?” meddai’r gyflwynwraig Siân Thomas, cyn ychwanegu ei fod yn “llun gwych”.

Roedd nifer o berfformwyr eraill wedi ymateb i’r rhaglen, gan gynnwys Izzy Rabey, a ddywedodd “Mor sori”.

“Ymddiheurwch @PrynhawnDaS4C,” meddai Lleuwen. “Di hyn ddim yn ddigon da!”

‘Angen inni wneud yn well’

“Ymddiheuriadau @sagetodz am gamgymeriad difrifol ar raglen @PrynhawnDaS4C,” meddai’r sianel ar eu tudalen Twitter.

“Rydym yn cytuno nad yw hyn yn ddigon da ac yn cydnabod bod angen inni wneud yn well.

“Mae gennym y parch mwyaf tuag atat fel artist ac unigolyn.”

“Rydym yn hynod siomedig am gamgymeriad difrifol ar raglen Prynhawn Da ddoe lle y dangoswyd llun artist arall yn hytrach na’r canwr Sage Todz,” meddai’r sianel mewn datganiad pellach.

“Rydym wedi cysylltu gyda Sage i ymddiheuro yn fawr am y camgymeriad ac wedi trafod camau gyda’r cwmni cynhyrchu i sicrhau na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto.

“Mae gan @S4Cy parch mwyaf at Sage fel un o dalentau mwyaf cyffrous Cymru ac rydym wrthi’n cydweithio ar nifer o brosiectau gydag ef.

“Rydym yn cydnabod nad yw hyn yn ddigon da a bod rhaid i ni wneud yn well.”

Galw am lacio rheol iaith yr Eisteddfod Genedlaethol i artistiaid gwadd

Mae Izzy Rabey ac Eädyth wedi bygwth peidio perfformio yn Gig y Pafiliwn oni bai bod y rheol yn newid a’u bod nhw’n cael cyfarfod â Bwrdd yr ŵyl
Sage Todz

“Dydi o ddim amdan yr iaith, mae o amdan fi fel artist”

Alun Rhys Chivers

Y rapiwr Sage Todz sy’n siarad â golwg360 yn dilyn ffrae fawr yr Eisteddfod