Mae’r cerddorion Izzy Rabey ac Eädyth yn bygwth peidio perfformio yn Gig y Pafiliwn yn yr Eisteddfod, oni bai bod y rheol iaith Gymraeg yn cael ei llacio i artistiaid gwadd.
Wrth esbonio’r penderfyniad, maen nhw hefyd yn gofyn am gael cyfarfod â bwrdd yr Eisteddfod er mwyn trafod sut y gall y Brifwyl “weithio’n galetach” er mwyn cydweithio ag artistiaid i fod yn fwy cynhwysol.
Daw eu penderfyniad wedi iddi ddod i’r amlwg na fydd Sage Todz yn perfformio yn yr Eisteddfod nac ym Maes B eleni, gan fod “gormod o Saesneg” yn y ei ganeuon, ac am nad yw’n dymuno newid y geiriau.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn pwysleisio bod ganddyn nhw “nifer o brosiectau sy’n helpu i ddatblygu artistiaid newydd, gan weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn a chynnig llwyfan iddyn nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod”.
“Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag artistiaid o bob genre i ddatblygu eu hyder i ddefnyddio ein hiaith a chynnig y llwyfan perfformio cyntaf iddyn nhw yn y Gymraeg,” medd llefarydd.
Wrth gyfeirio’n benodol at sefyllfa Sage Todz, dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod na fu modd iddyn nhw gytuno ar ddefnydd iaith, a’u bod nhw’n “parchu’r ffaith ei fod yn artist dwyieithog a Saesneg”.
Dwyieithrwydd “yn greiddiol”
Mae Izzy Rabey ac Eädyth wedi gorfod newid geiriau eu caneuon er mwyn cyd-fynd â’r rheol iaith eleni, yr un fath â’r llynedd.
Fodd bynnag, maen nhw’n dweud bod gofyn i artistiaid sy’n ysgrifennu’n ddwyieithog newid geiriau “nid yn unig yn cwestiynu gwir gymhellion pam y gwnaethoch ein cyflogi yn y lle cyntaf, ond hefyd yn awgrymu nad yw ein mynegiant o brofiadau ein bywydau fel Cymry yn gynrychiolaeth o’r safonau sy’n cyd-fynd â’r hyn y mae’r Eisteddfod yn ei ystyried yn ‘gadwraeth ddiwylliannol’ ac yn ‘ddathliad ieithyddol’.
“Rydym yn deall pam mae’r polisi iaith yn bodoli o fewn cyd-destun cystadlu, ond nid os ydy artistiaid yn cael eu gwahodd i berfformio, yn enwedig os yw’r Eisteddfod yn ymwybodol o’u geiriau yn barod.”
Ychwanega Izzy Rabey fod dwyieithrwydd yn “greiddiol” i’r ffordd maen nhw’n mynegi a dathlu eu hunaniaeth Gymraeg.
“Mae cerddoriaeth Gymraeg, hip hop Cymraeg yn arbennig, yn cysylltu â chenhedlaeth hollol newydd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg,” meddai wrth gwestiynu beth sy’n mynd i achub yr iaith.
“Mae’n ein tristáu nad yw’n ymddangos bod gan yr Eisteddfod ffydd yn y celfyddydau creadigol i feithrin diddordeb yn yr iaith Gymraeg, ac yn hytrach ei bod am osod rheolau a rheoliadau ar yr union artistiaid sy’n ehangu, gwasgaru a dathlu diwylliant Cymru.
“Ein penderfyniad felly yw gofyn i artistiaid Cymraeg eraill gael y cyfle i siarad â bwrdd yr Eisteddfod, i drafod ein pryderon ynglŷn â sut yr ydyn ni wedi cael ein trin o dan delerau’r polisi iaith a gofyn yn ffurfiol am newid hyn o beth.
“Os na chytunir ar hyn, byddwn yn tynnu allan o gyngerdd y pafiliwn ym mis Awst.
“Fel artistiaid, rydym wedi blino ar gael ein rhoi mewn sefyllfaoedd lle cawn ein cynghori i beryglu ein dewisiadau creadigol, ein hincwm a’n perthnasoedd proffesiynol er mwyn ‘ffitio’ rheol sy’n gosod yr hyn y dylai ‘gwir’ ddiwylliant Cymreig fod.
“Fel yr unig artistiaid benywaidd, hoyw ar y rhaglen hon, rydym hefyd yn deall sut, trwy godi llais, rydym yn peryglu’r gwelededd sydd gennym i Gymry ifanc, yn ogystal â gwaith yn y dyfodol ac ati.”
‘Gŵyl Gymraeg’
Mewn datganiad yn cyfeirio at y ddadl gododd wedi i Sage Todz ddweud na fyddai’n perfformio eleni, dywedodd Ashok Ahir, Cadeirydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod a Llywydd y Llys, mai Gŵyl Gymraeg yw’r Eisteddfod Genedlaethol a’u bod nhw’n “ymfalchïo’n fawr mewn dathlu’r iaith ar draws bob genre o’r celfyddydau”.
“Rydyn ni’n creu llawer o gyfleoedd i artistiaid berfformio yn Gymraeg am y tro cyntaf,” meddai.
“Rydyn ni’n parhau i weithio gyda nifer o bartneriaid i wneud y Gymraeg yn hygyrch i ystod ehangach o unigolion a grwpiau.
“Mae hyn yn cynnwys rhai sy’n gweithio yn y sector creadigol nad ydynt yn hyderus, neu sy’n newydd i’r iaith.
“Perfformio, cystadlu a thrafod yn y Gymraeg – a dim ond yn y Gymraeg – yw prif bwrpas yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer un wythnos yn y flwyddyn pan gynhelir yr ŵyl.
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymrwymedig i fod yn ŵyl gynhwysol sy’n parchu ac yn dathlu amrywiaeth yn ein holl weithgareddau a gweithdrefnau.”
Dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod nhw “wedi derbyn ebost gan Izzy Rabey ynglŷn â’i pherfformiad yn yr Eisteddfod y bore yma”.
“Byddwn yn ymateb iddi hi’n bersonol ac nid drwy’r wasg a’r cyfryngau,” meddai llefarydd.