Mae Adolfo Corrado wedi’i goroni’n Ganwr y Byd Caerdydd 2023.
Yn dilyn wythnos o berfformiadau arbennig yn Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, cafodd y panel beirniadu a’r gynulleidfa eu swyno gan dalent eithriadol, celfyddyd a medrusrwydd lleisiol yr enillydd.
Roedd y canwr 29 oed yn un o bum canwr gyrhaeddodd y rownd derfynol nos Sul, ar ôl y gystadleuaeth deng niwrnod.
Bu cystadleuwyr oedd yn cynrychioli cenhedloedd a chefndiroedd amrywiol yn hudo cynulleidfaoedd yn Neuadd Dewi Sant, lle buon nhw’n perfformio repertoire cyfoethog – yn amrywio o gampweithiau clasurol i weithiau cyfoes – gan greu argraff ar y beirniaid a’r cynulleidfaoedd.
Daeth Adolfo Corrado i’r amlwg fel artist hynod, gan hudo calonnau a meddyliau’r beirniaid.
Dangosodd gwmpas lleisiol eithriadol a hyblygrwydd drwy gyfres o berfformiadau ysbrydoledig yn ystod digwyddiad y Rownd Derfynol.
‘Dathlu pŵer y gân’
“Dros y deng niwrnod diwethaf, rydym wedi dathlu pŵer y gân ac wedi ein gwefreiddio gan 16 o artistiaid arbennig sydd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd,” meddai David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd.
“Yn ystod y rownd derfynol heno, rydym wedi cael y fraint o fwynhau talent anhygoel y pump ddaeth i’r brig a’u ymroddiad llwyr i ragoriaeth artistig.
“Wedi 40 mlynedd, mae’r gystadleuaeth yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda’r perfformiadau gwefreiddiol o safon.
“Rwy’ mor falch bod y rhai a fu’n gwylio a gwrando drwy ein darllediadau byw, llwyfannau digidol, a sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cael y cyfle i brofi’r cyfuniad o dalent, hud, campweithiau, a pherfformiadau syfrdanol rydym wedi’u mwynhau heno yng Nghaerdydd.”
Dywed Adolfo ei fod yn “llawn o lawenydd ac emosiwn”.
“Roedd hi’n siwrne wych a’r gynulleidfa anhygoel wedi bod o gymorth i mi a’m perfformiad,” meddai.
“Mae’n freuddwyd sydd wedi dod yn fyw.”
Y wobr
Bu’n rhaid i’r panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys unigolion o fyd cerddoriaeth glasurol, wynebu’r dasg anodd o ddewis enillydd o blith y garfan o ddoniau arbennig cyn datgan Adolfo Corrado fel enillydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023.
Fel enillydd, bydd yn cael pecyn o wobrau sy’n cynnwys gwobr ariannol sylweddol a nifer o gyfleoedd i berfformio gyda cherddorfeydd a chwmnïau opera blaenllaw ledled y byd.
Yn dilyn wythnos o gystadlu brwd, y pump fu’n cystadlu am y prif wobr heno oedd y mezzo o’r Alban, Beth Taylor; y soprano o Dde Affrica Nombuelo Yende; y baswr o’r Eidal Adolfo Corrado; y soprano o Gymru Jessica Robinson; a’r mezzo o Dde Affrica Siphokazi Molteno.
Julieth Lozano Rolong (31) o Colombia enillodd Gwobr y Gynulleidfa Y Fonesig Kiri Te Kanawa.
Enillydd y Wobr Datganiad gafodd ei chyhoeddi nos Iau (Mehefin 15) oedd y tenor o Dde Korea, Sungho Kim (32).
Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd wedi bod yn llwyfan ar gyfer doniau lleisiol newydd, gan ddyrchafu gyrfaoedd y cantorion a chyflwyno hyfrydwch opera i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd.
Roedd cystadleuaeth 2023 unwaith eto yn dangos grym ac egni oesol cerddoriaeth glasurol, gan sicrhau ei lle fel conglfaen diwylliannol yng Nghymru, ac yn fyd-eang.