Mae’r tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi gwerthu fel slecs.

Does dim tocynnau ar ôl i weld Pedair na Crachalela.

Mae tocynnau ar ôl ar gyfer y Gymanfa Ganu ar nos Sul, Awst 6 yn y Pafiliwn Mawr, a Gig y Pafiliwn nos Iau, Awst 10.

Mae tocynnau wythnos ar gyfer y Pafiliwn ar gael ar hyn o bryd.

Ar y nos Sadwrn (Awst 5), bydd Côr Gwerin yr Eisteddfod a’r grŵp gwerin Pedair yn dechrau yr wythnos gyda chyngerdd Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory.

Yn ymuno â Pedair – sef Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Siân James – fydd casgliad o artistiaid amlwg fel Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys a Twm Morys.

Yn ôl y drefn arferol, y Gymanfa Ganu fydd yn y Pafiliwn Mawr ar nos Sul, Awst 6, efo’r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw ac Ilid Anne Jones yn organydd.

Ar nos Fawrth a Nos Fercher bydd Sioe Cracharela, cyn Gig y Pafiliwn nos Iau.

Nos Fawrth a nos Fercher, bydd criw Cabarela yn dod yn ôl i lwyfan y pafiliwn gyda sioe newydd Cracharela.

Yn ôl y trefnwyr, mae Cabarela yn cynnal dwy noson eleni “oherwydd y galw mawr am docynnau” i’w gweld y llynedd.

Y gobaith yw y bydd modd cynnal perfformiad ar lawr gwlad ar ôl yr Eisteddfod o ganlyniad i’r gwerthiant.

Gig y Pafiliwn fydd yno nos Iau cyn i’r cystadlu gael blaenoriaeth yn y prif bafiliwn nos Wener a nos Sadwrn.

Ymateb

“Rydyn ni’n ymwybodol fod tocynnau i weld Pedair wedi gwerthu’n gyflym,” meddai’r Eisteddfod.

“Oherwydd argaeledd artistiaid a pherfformwyr yn ystod yr wythnos, doedd dim modd rhedeg y cyngerdd mwy nag unwaith ac rydyn ni mewn trafodaethau i weld a oes modd trefnu perfformiad arall yn y gymuned ar ôl yr Eisteddfod.”

“Mae tri chyngerdd wedi gwerthu allan o fewn ychydig oriau, gyda’r cyngerdd agoriadol yn gwerthu allan o fewn hanner awr yn unig,” meddai Michael Strain, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi prynu tocynnau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi ein rhaglenni llawn yn fuan iawn.

“Mae hyn yn ffordd arbennig o dda i ddathlu mai dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan yr Eisteddfod ym Moduan, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom ymhen saith wythnos!”