Mae Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol yn gyfle i ddathlu lle siopau llyfrau bach yng nghalon y gymuned ac iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n rhan o “rwydwaith ehangach”, yn ôl un siop lyfrau yng Nghaernarfon.
A hithau’n Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol yr wythnos hon, mae’r wythnos yn ddathliad blynyddol o bwysigrwydd siopau o’r fath ar y stryd fawr mewn trefi ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.
Mae’n gyfle i dynnu sylw at siopau llyfrau annibynnol ar draws y wlad, a’r hyn maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd, ac i annog pobol i ymweld â’u siop lyfrau leol, lle bynnag maen nhw.
Yn Palas Print, maen nhw’n anelu i gynnig croeso cynnes i bawb drwy’r flwyddyn, a’r wythnos hon mi fyddan nhw’n cynnig ambell beth ychwanegol i ddiolch i bobol am eu cefnogaeth.
Maen nhw wedi trefnu ychydig o ddigwyddiadau ac maen nhw’n annog pobol i wneud nifer o bethau i gefnogi eu siop lyfrau leol, gan gynnwys:
- ymweld â’r siop, neu siop lyfrau annibynnol arall ar y stryd fawr
- annog pobol eraill i gofrestru i dderbyn e-lythyr Palas Print, fel bod mwy yn dod i wybod am eu gweithgareddau a’u cynigion arbennig
- hoffi a rhannu negeseuon Palas Print a siopau annibynnol eraill ar y cyfryngau cymdeithasol, a dilyn yr hashnod #wythnossiopaullyfrauannibynnol i weld beth sydd ganddyn nhw a siopau eraill ar y gweill
Yn ystod yr wythnos, bydd ychydig o gynigion ar gael yn Palas Print, gan gynnwys pwyntiau dwbl ar docynnau pwyntiau am yr wythnos gyfan, bag cynfas am ddim, a thocynnau llyfrau gwerth £5 wrth wario dros £30, bag cynfas crand am ddim a thocyn llyfr gwerth £5 wrth wario dros £50.
Wythnos i dynnu sylw
Gyda nifer helaeth o siopau llyfrau yng ngwledydd y Deyrnas Unedig, mae cyfle i bobol sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain neu mewn timau bach fel llyfr-werthwyr fod yn rhan o ddathliad cenedlaethol.
“Mae’n wythnos i ni fel siopau llyfrau annibynnol i dynnu sylw at y ffaith bod ni yma,” meddai Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.
“Mae’n wythnos i ddathlu bod dros 1,000 o siopau llyfrau annibynnol mewn trefi a phentrefi ar draws gwledydd Prydain.
“Mae’n gyfle i ni wneud fuss ynglŷn â hynna, a chodi ein llais ychydig bach.
“Dydyn ni ddim yn dda iawn yn gwneud hynna.
“Mae’n dda i fi fel llyfrwerthwr annibynnol sydd fel arfer yn gweithio ar ei phen ei hun, yn ei siop ei hun.
“Hynny yw, dim ar ben fy hun, yn gweithio yn fy siop fy hun yn rhan o dîm bychan, yn edrych ar beth sydd gennym yn ein siop ni.
“Mae’n braf cael wythnos yma i ddathlu pob siop lyfrau annibynnol.
“Rydym yn rhan o gymuned o siopau annibynnol yng Nghaernarfon, ac mae pob un yn wahanol.
“Mae’n braf i ni wythnos yma deimlo ein bod yn rhan o rwydwaith ehangach o siopau llyfrau ym mhob man.
“Rydym wedi bod yn dweud wrth bobol wythnos yma, ‘Ewch mewn i siop lyfrau annibynnol ble bynnag ydych chi’.”
Y gymuned
Gyda siopau llyfrau annibynnol wrth galon y gymuned, maen nhw’n cefnogi pobol a sefydliadau lleol mewn ffyrdd diwylliannol ac ariannol.
“Rwyf newydd ddarllen rhywbeth yn ddiweddar lle maen nhw’n sôn bod siopau llyfrau annibynnol yn llefydd mae pobol yn ymgynnull,” meddai Eirian James wedyn.
“Rwy’n meddwl bod pob siop annibynnol yn denu pobol i’r dref.
“Mae siop lyfrau yn gwneud hynny i bobol sydd â diddordeb mewn prynu llyfrau.
“Rwy’n meddwl bod siop lyfrau annibynnol yn dda i’r gymuned oherwydd bod ni’n rhan o’r gymuned.
“Rydym yn adlewyrchu’r gymuned rydym yno fe, rydym yn ymateb i’r gymuned rydym yno fe, rydym yn gallu bod yn ffocws yn y gymuned rydym yno fe.
“Mae siopau llyfrau ym mhob man yn weithgar yn eu cymunedau.
“Mae siopau llyfrau efo perthynas efo ysgolion yn lleol, llyfrgelloedd yn lleol a busnesau eraill yn lleol.
“Mae’n gallu bod yn un o’r pwyntiau diwylliannol mewn tref.
“Mae’n gallu bod yn ganolfan i ddod â phobol at ei gilydd mewn tref.
“O’n profiad ni, ac rwy’n meddwl bod hyn yn wir i siopau llyfrau annibynnol eraill, rydym yn cyflogi pobol leol, rydym yn prynu cynnyrch lleol, rydym yn cefnogi awduron lleol ac rydym hefyd yn bersonol ac fel busnes yn trio prynu mor lleol â phosibl ym mhob achos.
“Mae siopau annibynnol yn tueddu bod yn rhan o’r economi gylchol.
“Rydym yn prynu gan ein gilydd ac yn troi’r arian yna yn lleol gymaint â phosibl.
“Trwy fod yn cyflogi a phrynu yn lleol ac yn cefnogi busnesau lleol, yn cadw unrhyw elw yn lleol i wario yn lleol.”
Pam prynu’n lleol?
Gyda llawer mwy yn cael ei gynnig o brynu’n lleol nag wrth brynu ar-lein, mae siopau llyfrau annibynnol yn cyflogi staff lleol ac yn cadw ein trefi a phentrefi yn fyw.
“Mae yna sawl rheswm pam dylai pobol wneud ymdrech i brynu o siop lyfrau annibynnol,” meddai.
“Rwy’n meddwl bod siopau annibynnol llyfrau lleol yn alternative da i brynu ar lein oherwydd rydym yn talu ein trethi a chyflogau teg, dim minimum wage ond real living wage ac uwch.
“Hefyd, mae’r profiad yn mynd i fod yn brofiad gwahanol oherwydd trwy siopa mewn siopa annibynnol rwyt yn cael profiad ac arbenigedd a gwybodaeth.
“Rwyt yn gallu tynnu ar brofiad pob aelod o’r staff.
“Mae pobol yn aml yn dweud bod nhw’n dod ar draws llyfrau dydyn nhw ddim yn gweld mewn siopau eraill yn dweud ‘doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfr yna’.
“Maen nhw’n dod ar draws llyfrau doedden nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw.
“Rwy’n meddwl ei fod yn deg dweud, pan rwyt ti’n dod i’r siop, does dim gorfodaeth i brynu bob tro.
“Mae yna gymuned i gael yma.
“Mae yna 101 o resymau i siopa mewn siop lyfrau annibynnol.
“Rydym yn gallu cynghori, awgrymu, helpu a gwneud cynigion, does dim rhaid i bobol gymryd nhw.
“Rydym yn gallu dod â phobol at ei gilydd o gwmpas llyfrau, rydym yn gallu helpu pobol i ffeindio eu ffordd trwy lyfrau.
“Mae yna gymaint mwy iddo fo na gwerthu llyfr.
“Dim dyna beth yw e o gwbl, mae’n gallu bod llawer mwy na phrynu llyfr.
“Mae sgwrs a thrafodaeth ynglŷn â’r llyfr, mae rhannu gwybodaeth a phrofiad, mae cynghori.
“Mae yna rywbeth braf ynglŷn â cherdded mewn i le lle ti ddim yn gwybod am be’ ti’n chwilio a cherdded oddi yna efo rhywbeth ti’n mynd i fwynhau.
“Hefyd, mae’r elfen ein bod yn cyfannu at ein heconomi lleol, bo ni yn talu trethi a chyfrannu at y Stryd Fawr.
“Os dydy pobol ddim yn cefnogi eu siopau, fydd yna ddim siopau.
“Mae llawer yn y cyfryngau yn siarad am y Stryd Fawr yn marw.
“Mae’r Stryd Fawr yn newid ond rwy’n meddwl, gyda siopau annibynnol ym mhob tref, mae hynny yn golygu bod amrywiaeth i bawb a rhywbeth at ddant pawb.
“O’n safbwynt ni, rwy’n meddwl bod y Stryd Fawr yn ffynnu yng Nghaernarfon.
“Mae pob siop llyfrau annibynnol rwy’n siarad gyda nhw yn bositif ynglŷn â siopau llyfrau annibynnol a siopau annibynnol yn gyffredinol ar y Stryd Fawr.
“Roedd rhywun yn dweud yn ddiweddar, ‘Use it or lose it‘.
“Hynny ydy, y rheswm da i ddefnyddio siop llyfrau annibynnol lleol ydy mae o yna i gael ei defnyddio ar gyfer y gymuned leol.”
Gwaith o ddydd i ddydd
Mae gwaith llyfrwerthwr yn eang, ac mae llawer iawn mwy i’r swydd na gwerthu llyfrau.
“Mae yna gymaint o bethau mae siop lyfrau annibynnol yn gwneud o ddydd i ddydd,” meddai Eirian James.
“Dewis llyfrau, gosod llyfrau, derbyn llyfrau, gosod llyfrau allan, gwneud ffenestri, siarad gyda chwsmeriaid, delio gydag ymholiadau o ble bynnag maen nhw’n dod, croesawu pobol i’r siop, helpu pobol i ffeindio llyfrau ar destunau gwahanol neu bobol benodol, sgwrsio gyda phobol, trefnu digwyddiadau…
“Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd.
“Mae llawer o amrywiaeth, ac mae llawer o sgiliau gwahanol sydd eu hangen.
“Dydw i heb hyd yn oed sôn am y gwaith gweinyddol sydd angen ei wneud.”
Digwyddiadau Palas Print
Neithiwr (nos Lun, Mehefin 19), fe wnaeth Palas Print groesawu Victor Rodriguez i noson yn cynnwys darlleniad a thrafodaeth, ar achlysur cyfieithiad newydd o’i gerddi i’r Saesneg, Rebel Matter, a chyflwyniad o Poetry’s Geographies, blodeugerdd yn dathlu’r gwaith cyfieithu (i’r Saesneg) ar y ddwy ochr i’r Iwerydd.
Mae sesiwn stori yng nghwmni Casia Wiliam, lle bydd hi’n darllen ei stori newydd sbon i blant, Y Gragen, fel rhan o ddathliadau Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol ar ddydd Sadwrn (Mehefin 24) am 10.30yb.
Bydd rhagflas o CURIADAU, blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
I ddathlu mis Balchder a Gŵyl Balchder Gogledd Cymru yng Nghaernarfon dydd Sadwrn (Mehefin 24), am 3 o’r gloch bydd Marlyn Samuel yn llywio sgwrs gyda golygydd y gyfrol hon, Gareth Evans Jones, a bydd darlleniadau gan rai o’r cyfranwyr, yn cynnwys Richard Crowe a Tesni Peers.