Bydd rhai o raglenni S4C yn cael eu dangos yn yr Unol Daleithiau diolch i gytundeb rhwng y sianel a’r actor Hollywood Ryan Reynolds.
Fel rhan o’r cytundeb masnachol, bydd S4C yn darparu chwe awr yr wythnos o gynnwys Cymraeg wedi’i ddewis gan yr actor ar gyfer sianel Maximum Effort, fydd yn cael ei ffrydio ar Welsh Wednesdays.
Bang, Pen Petrol, Y Wal Goch, Wrecsam Clwb Ni, Y Fets, a Gareth Bale: Byw Breuddwyd yw’r rhaglenni sy’n lansio Welsh Wednesdays.
Bydd S4C yn cyflenwi rhaglenni wythnosol i’r sianel, gan gynnwys dramâu, rhaglenni dogfen ac adloniant.
‘Diffyg yn dod i ben’
Mae sianel Maximum Effort yn bartneriaeth rhwng platfform ffrydio Fubo a Maximum Effort, cynhyrchwyr ffilmiau Deadpool a chyfres Welcome to Wrexham.
Mae’r sianel ar gael i’w gwylio yn yr Unol Daleithiau a bydd y cytundeb yn creu incwm fydd yn cael ei fuddsoddi yn y sector creadigol yma yng Nghymru.
Dywed Ryan Reynolds, cyd-sylfaenydd Maximum Effort ac un o berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, fod “llawer wedi dweud fod yna ddiffyg mawr o raglenni o Gymru ar gael i’w gwylio yn America”.
“Mae’r diffyg yma am ddod i ben heddiw. Wel, ar ddyddiau Mercher mewn gwirionedd,” meddai.
“Rydym mor ddiolchgar i S4C am helpu i ddod â rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa ehangach.
“Ac i’r gynulleidfa ehangach honno, peidiwch â phoeni, maen nhw wedi dweud wrtha i y bydd yna is-deitlau.”
Bydd Welsh Wednesdays yn dechrau ar sianel Maximum Effort ddydd Mercher yma (Mehefin 28).
‘Cymro mabwysiedig’
Dywed Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, fod hyn yn gyfle i ddangos diwylliant, iaith a thalent Cymru ar lwyfan rhyngwladol bob wythnos.
“Mae Ryan Reynolds yn Gymro mabwysiedig a does dim modd amau ei ymrwymiad, ei barch, a’i ddealltwriaeth o Wrecsam a Chymru,” meddai.
“Ryan, tîm Maximum Effort a ni sydd wedi dewis y sioeau cyffrous ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, ac mae Ryan yn deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r iaith ac wedi syrthio mewn cariad â’r wlad a’i phobl.
“Mae gan Gymru boblogaeth o ychydig dros dair miliwn, ond mae Ryan yn gallu cyrraedd degau o filiynau o bobl ar ei ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn unig.
“Bydd y cytundeb masnachol hwn yn mynd â chynnwys Cymraeg i Hollywood a’r byd.
“Bydd o fudd i’r sector greadigol gyfan a’r dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru.
“Byddwn ni’n dangos popeth o ddramâu S4C i fformatau adloniant, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
“Ddeugain mlynedd yn ôl, ymgyrchodd pobl yn frwd i sefydlu S4C fel sianel Gymraeg – nawr byddwn yn gallu ffrydio rhaglenni Cymraeg i filiynau o bobl yr ochr arall i’r byd.”