Bydd bandiau o Gymru’n cefnogi Foo Fighters ar eu taith Brydeinig y flwyddyn nesaf.

Bydd gigs yng Nghaerdydd, Manceinion, Glasgow, Llundain a Birmingham fis Mehefin 2024, fel rhan o’u taith stadiymau.

Bydd CHROMA yn eu cefnogi nhw yng nghae criced Emirates Old Trafford ym Manceinion ar Fehefin 15, tra bydd Himalayas yn eu cefnogi yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar Fehefin 25.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r band fod yn perfformio fel act dirgel ar lwyfan Pyramid Gŵyl Glastonbury dros y penwythnos.

Mae chwech albwm y band wedi cyrraedd brig siartiau’r Deyrnas Unedig yn ystod eu gyrfa 30 mlynedd.

Cafodd yr LP But Here We Are ei chyhoeddi ar Fehefin 2, y tro cyntaf iddyn nhw recordio deunydd newydd ers marwolaeth y drymiwr Taylor Hawkins fis Mawrth y llynedd.

Josh Freese yw drymiwr newydd y band.

Bydd y daith yn rhedeg rhwng Mehefin 13-27.

Ymateb

Dywed CHROMA eu bod nhw’n “gwireddu breuddwyd” drwy gael cefnogi’r band ar y daith.

“Diolch yn fawr i’r Foos am ein cael ni,” meddai’r band, gan ychwanegu bod modd cofrestru rhagblaen ar gyfer tocynnau yr wythnos hon.

Dywed Himalayas ei bod hi’n “anrhydedd” cael agor y gig yng Nghaerdydd a “chwarae yn ein stadiwm leol a chefnogi ein harwyr”.