Cafodd Rhys Ifans ei blesio gan gynhyrchiad theatr Cymraeg ym Mangor dros y penwythnos – a byddai wrth ei fodd pe bai rhagor yn cael y cyfle i’w gweld hi.
Bu’r actor ffilm yn siarad gyda chylchgrawn Golwg ar ôl bod i weld y perfformiad olaf ond un o Creigiau Geirwon yn Pontio brynhawn Sadwrn (Mehefin 24).
Teithiodd yr actor – un o sêr y gyfres fawr House of the Dragon ar y sianel Americanaidd HBO – yn unswydd o Lundain i wylio’i frawd, Llŷr Evans, yn actio yn y ddrama.
Mae’r ddrama yn olrhain hanes tywysyddion cynnar yr Wyddfa a hanes y diwydiant ymwelwyr yn Eryri.
Dim ond pedwar perfformiad a fu ac nid oes bwriad eto i fynd â hi ar daith.
Aelodau eraill y cast oedd Iwan Charles a Manon Wilkinson, ac awdur y ddrama oedd Wyn Bowen Harries, sylfaenydd Cwmni Pendraw, sy’n arbenigo ar theatr sy’n cyfuno hanes, gwyddoniaeth a cherddoriaeth fyw.
Roedd cerddoriaeth fyw gan Patrick Rimes a Casi Wyn/Mared Williams yn rhan o’r sioe, fel yr oedd dawnswyr cwmni Kate Lawrence Vertical Dance.
“Mae hi’n biti bod y lle ddim yn orlawn – mi ddylai o fod, mae’r sioe yn haeddu hynny,” meddai Rhys Ifans wrth Golwg.
“Fyddwn i wrth fy modd petai mwy o bobol yn cael y cyfle i’w gweld hi, ond mae hwnna’n gwestiwn i rywun arall, nid fi.
“Stori dda ydi stori dda… Roedd hi’n wych. Da iawn.”
- Darllenwch y cyfweliad yn llawn yn rhifyn diweddaraf Golwg, sydd yn y siopau heddiw (dydd Iau, Mehefin 29).
A dyma erthygl fu yng nghylchgrawn Golwg am y ddrama Creigiau Geirwon: