Bydd cast Creigiau Geirwon yn hongian oddi ar raffau, yn union fel y byddai beirdd a botanegwyr cefnog ganrif a hanner yn ôl…
Mae drama newydd yn cael ei llwyfannu’r wythnos nesaf am dalp o hanes ucheldir Eryri – yn arbennig hanes “coll” y tywyswyr mynydd cynnar.
Roedd rhai o’r tywyswyr yma yn dyddynwyr, yn dafarnwyr ac yn chwarelwyr lleol a oedd yn gweld cyfle i ennill ceiniog drwy arwain botanegwyr ac artistiaid a beirdd ar hyd llethrau Eryri.
Yr actorion sy’n defnyddio hiwmor a drama i’n tywys drwy’r hanes, ac yn ein cyflwyno i sawl cymeriad ar hyd y daith, yw Iwan Charles, Llŷr Evans a Manon Wilkinson.
Mae Creigiau Geirwon, a fydd yn Pontio, Bangor yr wythnos nesaf, yn gyfres o olygfeydd am gyfnod pan fyddai pobol gefnog yn dod i lethrau Eryri i ddringo, er mwyn dysgu am fotaneg a byd natur, a hel planhigion.
Dyma drydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw, sy’n arbenigo ar gyflwyno dramâu am hanes, gwyddoniaeth a’r hinsawdd drwy gynyrchiadau unigryw. Yr actor Wyn Bowen Harries, a sefydlodd y cwmni nôl yn 2015, sydd wedi sgrifennu sgript Creigiau Geirwon ac ef sy’n cyfarwyddo.
Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd Mr Bukeley o’r Brynddu, a oedd yn cyfuno hanes Sir Fôn gyda cherddoriaeth werin fyw, ag elfen o wyddoniaeth.
“Dyna’r tri pheth rydan ni wedi pwysleisio arno fo fel cwmni – elfennau gwyddonol, elfennau hanesyddol, a defnydd o gerddoriaeth fyw,” meddai Wyn Bowen Harries wrth Golwg. “Dyna’r tri pheth sy’n ofnadwy o bwysig i ni… heblaw am yr actio, wrth reswm!
“Efo’r bwrdd [o gyfarwyddwyr Cwmni Pendraw] roedden ni wedi bod yn trafod dros y blynyddoedd ‘be wnawn ni wneud nesa?’
“Gawson ni syniad gan bobol fel [y naturiaethwr] Twm Elias a [yr hanesydd] Nia Powell sydd ar y bwrdd am dywysyddion mynydd. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano. Wel, ‘Na’, meddan nhw – mae o’n hanes coll.”
Ar ôl darllen dau lyfr Dewi Jones, Penygroes, Tywysyddion Eryri a The Botanists and Guides of Snowdonia, gwelodd bod llawer o wybodaeth “anhygoel” ar gael ac y gallai ei droi yn stori ddifyr. “Y peth pwysig efo darn o theatr ydi – beth ydi’r stori? Sut mae pobol yn mynd i gael eu difyrru?” meddai Wyn. “Mae Creigiau Geirwon yn cael ei ysbrydoli gan lyfrau Dewi Jones, ond dw i wedi gwneud llawer o ymchwil fy hun a defnyddio fy nychymyg i greu gwahanol senarios.”
Wil Bŵts a’i gyfoedion
Yn Creigiau Geirwon, mae rhywfaint o hanes y tywyswyr yn cael ei adrodd mewn ffordd ddifyr diolch i’r actorion Llŷr Evans, Iwan Charles a Manon Wilkinson. Bu Golwg yn sgwrsio gyda’r tri yn eu stafell ymarfer, sef llofft fawr hen gapel Jeriwsalem ym Methesda yn Nyffryn Ogwen.
‘William Williams’, neu Wil Bŵts yn lleol, oedd un o’r tywyswyr cynnar mwyaf adnabyddus. Roedd yn fotanegwr, sef rhywun sy’n astudio planhigion, ac yn ddringwr da a fyddai allan ym mhob tywydd. Gwisgai gap ffwr gyda’r geiriau ‘Botanist Guide’ arno. Iwan Charles sy’n ei actio yn y sioe.
“Mae o’n ddifyr iawn,” meddai’r actor o Lanrhaeadr ger Dinbych. “Fo oedd yn cael y mwya’ o waith am ei fod yn gwybod y mwya’ am y planhigion. Yna mae’r hogiau ifanc – ac mae Manon yn chwarae ryw was – yn cael eu hannog i ddysgu am y planhigion a’r enwau Lladin, a lle maen nhw, a thrwy hynny roedden nhw’n cael mwy o waith tywys y bobol fawr yma i fyny’r mynydd.”
“Mae’r gwaith yn dal yn bodoli,” ychwanega Llŷr Evans. “Mae gen i ffrindiau a’u gwaith nhw ydi tywys pobol i fyny’r mynyddoedd. Mae’n bwysicach rŵan, oherwydd mae yna rai pobol yn mentro heb dywysydd ac yn mynd i drafferthion erchyll. Yr adeg yna, roedden nhw fatha ryw salesmen; dyna oedd eu bywoliaeth nhw.”
Yn y sioe, sy’n cynnwys 15 o olygfeydd, mae Wyn Bowen Harries wedi britho’r ddeialog ysgafn gyda gwybodaeth gryno am ddigwyddiadau a chymeriadau nodedig yn hanes Eryri. Yn eu plith mae chwedl cawr yr Wyddfa, Rhita Gawr; hanes y bardd Percy Bysshe Shelley o gyfnod y Rhamantwyr, a’r botanegydd enwog Charles Darwin, ynghyd â’r tywysyddion lleol fel Elias Roberts (Lias Bach) a oedd yn arfer diddanu ei gwsmeriaid gyda’i ganu.
Mewn un olygfa mae Wil Bŵts yn sgwrsio gyda’i gyfaill, y tywysydd John Evans, am gwsmer pwysig o’r enw Mr Pamplin (‘dyn rhyfedd braidd’) sydd am fynd i fyny’r Wyddfa. Mae wedi cael ei hurio ganddo fel tywysydd botanegol am dri diwrnod cyfan, ac mae’n ‘talu’n dda’. Mae John Evans yn ei dweud-hi am ei gwsmeriaid rhyfedd yntau: ‘Ddoe, pwy oedd gen i, ryw David Cox, arlunydd. Stopio bob munud i wneud ryw sgetshis. Ro’n i’n meddwl byswn i byth yn cyrraedd adra!’
‘Y boi Shelley yna’
Mae Wil Bŵts wedyn yn adrodd hanes ‘y boi Shelley yna…. Fo, de, ei wraig, chwaer ei wraig, a rhyw ddynes arall. Byw drwy’i gilydd – un dyn a thair dynas! Yn Nhremadog o bob man! Siarad yn agored am secs a ballu…’
Mae’r ddawn i wneud i bobol wenu yn dod yr un mor naturiol i Llŷr Evans ac Iwan Charles – sydd wedi actio gyda’i gilydd ar lwyfan sawl tro o’r blaen – â’r ddawn actio. Yn y ddrama, Llŷr sy’n portreadu sawl enw amlwg o’r oes Fictoraidd – fel George Borrow, awdur y teithlyfr enwog, Wild Wales (1862).
“Mae o wedi dysgu Cymraeg, yn amlwg,” meddai’r actor. “Mae o’n licio meddwl ei fod o’n siarad Cymraeg graenus, yn licio sbowtio barddoniaeth.”
Ac mae Llŷr yn actio llu o bobol wahanol yn Creigiau Geirwon.
“Mae gen i ryw wyth, naw o gymeriadau. Mae o’n ddifyr… dw i wedi gwneud Edward Llwyd – do’n i ddim yn gwybod lot amdano fo.”
Bu Edward Llwyd – a gafodd ei ddisgrifio yn 1706 fel ‘y naturiaethwr gorau yn Ewrop’ – yn ymweld ag Eryri o tua 1680 ymlaen. Ef oedd yr un wnaeth adnabod blodyn lili’r Wyddfa yng Nghwm Idwal fel rhywogaeth unigryw, a chafodd ei hail enwi yn Lloydia serotina er anrhydedd iddo.
“Mae o’n ddyn hynod,” meddai Llŷr. “Yn ffrind i Isaac Newton, roedd o’n ieithydd, yn fotanegydd, fo wnaeth wneud ryw gysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd… Mae gen i lot o Ladin i’w siarad, sy’n drafferthus i’w siarad… dw i’n siarad Ffrangeg [yn y ddrama], dw i’n siarad Almaeneg… mae o’n sialens a hanner. Mae hwnna jyst yn un cymeriad. Mae gen i wyth arall i’w gwneud.”
Mae Manon Wilkinson yn dechrau rhestru’r gwahanol gymeriadau mae hi’n eu chwarae yn y sioe. “Mr Parker, y crwner, y gwas, Guto, Rhian,” meddai’r actor o Gaernarfon. “Dw i’n chwarae bechgyn hefyd, felly mae hynna’n dipyn o sialens. Maen nhw’n gymeriadau reit liwgar yn eu golau eu hunain. Mae gen i ryw wisg, neu het neu gôt wahanol i wahanol gymeriadau. Mae’n ei gadw fo’n ddifyr, gallu neidio o un peth i’r llall.”
Yn un o’r golygfeydd mae hi’n actio un o’r menywod crand a oedd yn dod i hel y rhedyn prin, yn rhan o’r ‘Great Victorian Fern craze’ yn yr 1830au. “Mae hi’n reit fawreddog, ac yn lliwgar iawn,” meddai.
“Roedd ganddyn nhw blanhigion arbennig yr oedd pobol eu heisio,” eglura Llŷr Evans . “Roedd o fel trophy hunting… ond eu bod nhw’n hela planhigion prin yn hytrach nag anifeiliaid prin.”
Dawnsio a rhaffau
Yn ogystal â cherddoriaeth fyw gan y gantores Casi Wyn a’r ffidlwr Patrick Rimes, mae’r sioe yn defnyddio dawns, diolch i gwmni Kate Lawrence, ‘Vertical Dance’. Wrth hongian a symud ar raffau, mae’r dawnswyr yn cyfleu’r ymwelwyr cefnog a ddôi i ddringo’r creigiau geirwon yn Eryri, yn eu sgertiau llawn a’u hetiau. A bydd yr actorion hefyd yn hongian…
“Wel, mae yna ddawnswyr proffesiynol yn ei wneud o i edrych yn urddasol a gosgeiddig,” meddai Llŷr Evans. “Yna rydan ni’n tri yn dod ymlaen…”
Iwan Charles sy’n cael y dasg anoddaf o ran hynny, wrth gymeriadu WIlliam Williams, a fu farw ar ôl syrthio oddi ar Glogwyn y Garnedd ym Mehefin 1861. “Rydan ni’n gweld Wil Bŵts yn syrthio o ddibyn i’w farwolaeth,” meddai. Ei gyd-actor Llŷr Evans fydd yn dal pen arall y rhaff ar ochr y llwyfan: “Mae ei fywyd yn fy nwylo i, yn llythrennol,” meddai yntau.
Yn sgîl newid yn yr hinsawdd heddiw, a’r bygythiad i rywogaethau prin, mae’r wybodaeth hanesyddol am blanhigion yn y sioe yn ddefnyddiol i ni heddiw, yn ôl y cyfarwyddwr Wyn Bowen Harries. Mae’r ddrama yn agor a chau gyda dau gymeriad o’r presennol yn trafod sefyllfa Eryri a’i bioamrywiaeth heddiw.
“Rydan ni’n gofyn beth sy’n mynd i ddigwydd i’r planhigion arbennig yma sydd ar y mynydd,” meddai, “a beth sy’n mynd i ddigwydd i’r hinsawdd.”
- Bydd Creigiau Geirwon i’w gweld yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor ar 22 – 24 Mehefin