Mae eisteddfodwyr yn cael blas ar y diwylliant a’r traddodiadau lleol gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn teithio.
Dyna farn Cadeirydd Pwyllgor Gwerin Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, sy’n addo y bydd arlwy “o bethau lleol, diddorol iawn” yn y Tŷ Gwerin ar faes y brifwyl ym Moduan rhwng Awst 5-12.
“Mae hi mor braf cael yr Eisteddfod yn yr ardal yma,” meddai’r cerddor Gwenan Gibbard, sy’n byw ym Mhwllheli.
“Dyna sy’n ddifyr am Eisteddfod yn teithio, mae rhywun yn cael blas o ardal arbennig a thraddodiad yr ardal yna. Yn enwedig yn y Tŷ Gwerin – mae yna arlwy ddifyr iawn, lle mae yna bethau arferol a’r blas cenedlaethol, ond hefyd mae yna arlwy o bethau lleol, diddorol iawn.
“Mae pobol yn mynd i gael blas ar y caneuon gwerin lleol, y traddodiad cerdd dant lleol, y siantis, a’r canu gwlad.”
Hen Ganeuon Newydd
Roedd Gwenan Gibbard wedi bod yn sgwrsio gyda Golwg am ei halbwm diweddaraf, ‘Hen Ganeuon Newydd’.
Mae ei chyfweliad llawn yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn sydd allan yn y siopau heddiw (dydd Iau, Mehefin 29).
Caneuon yn gysylltiedig â Phen Llŷn ac Eifionydd yw’r albwm yn bennaf – rhai y daeth o hyd iddyn nhw mewn casgliadau wrth weithio ar ei Doethuriaeth o dan ofal Prifysgol Bangor, y dechreuodd arni dair blynedd yn ôl.
Mae’r cerddor gwerin hefyd wrthi’n cyd-hyfforddi’r Côr Gwerin, sydd ag oddeutu 200 o aelodau, ar gyfer cyngerdd yn y pafiliwn nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, ‘Curiad’.
Mae Gwenan Gibbard, ynghyd â Siân James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym – sef pedwarawd gwerin Pedair – yn rhan allweddol o’r cyngerdd.
Gwerthodd holl docynnau’r noson ymhen hanner awr o fynd ar werth.
Bydd hi hefyd yn perfformio caneuon o’r albwm newydd ac yn sgwrsio gyda Nia Daniel o Archif Gerddorol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol am ei hymchwil i’r caneuon yn y Tŷ Gwerin y dydd Iau.