Mae menter gymunedol i brynu tafarn ger y Bala yn chwilio am rywun i redeg y busnes.
Ers i Fenter yr Eagles gyhoeddi fis diwethaf bod Llanuwchllyn wedi dod ynghyd i brynu a rhedeg y dafarn, mae’r ymgyrch wedi bod yn mynd o nerth i nerth.
Erbyn hyn, mae’r fenter yn chwilio am bobol sydd â diddordeb mewn rhedeg yr adeilad a’i weithredu fel tafarn, bwyty a siop gymunedol.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Eleri a Meirion Pugh i ymddeol ar ôl dros ddau ddegawd yn rhedeg tafarn yr Eagles.
Mae’r pwyllgor gwaith wedi cytuno ar swm o arian gyda’r perchnogion, ac maen nhw’n paratoi i gyhoeddi manylion cyfrannau’n fuan.
Mae’r gymdeithas wedi gosod nod o £500,000 er mwyn prynu’r dafarn.
‘Cyfle anhygoel’
Dywedodd Grisial Llewelyn, Cadeirydd Menter yr Eagles, fod hwn yn “gyfle anhygoel” gan fod yr Eagles yn fwy na busnes yn unig.
“Mae hwn yn sefydliad annwyl ac arbennig i’r gymuned a’r miloedd sy’n ymweld bob blwyddyn,” meddai.
“Mae’r busnes yn darparu ffrydiau amrywiol o incwm trwy’r siop, y dafarn a’r bwyty, ac mae’n llwyddiant profedig o ran proffidioldeb a chynaliadwyedd.
“Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefnogaeth y gymuned, yr ardal ehangach ac arbenigedd a chefnogaeth ymarferol y tîm rheoli.”
‘Gwerthfawrogi’r Gymraeg’
Ychwanegodd Gareth Llyr Jones, Trysorydd y fenter, eu bod nhw wedi’u syfrdanu gan y negeseuon brwdfrydig o gefnogaeth o bob rhan o Gymru a thu hwnt.
“Mae hyn lawr dwi’n meddwl i’r ffaith bod yr Eagles yn arbennig – a’r ffaith mai’r hyn sy’n gwneud ac wedi gwneud yr Eagles yn arbennig erioed yw’ sylfaen Menter yr Eagles.
“Mae’r fenter hon wedi’i gwreiddio yn y gymuned ac yn gweithio i’r gymuned, mae’r fenter hon yn ymwneud a chroeso cynnes a chynhwysol i bawb a bob amser, ac yn bennaf oll mae’r fenter hon yn ymwneud â gwerth a gwerthfawrogiad o’r iaith Gymraeg.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed gan bawb sydd â diddordeb mewn rhedeg y lle arbennig iawn hwn.”