Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor, wedi ychwanegu at y galw am ymchwiliad covid Cymru-benodol.

Daw hyn wedi i weinidogion Llywodraeth Cymru roi tystiolaeth yn ymchwiliad y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod y dystiolaeth wedi “dangos yn glir” bod angen ymchwiliad annibynnol.

“Mae’r dystiolaeth a roddwyd i Ymchwiliad Covid o safbwynt Cymreig dros y diwrnodau diwethaf yn dangos yn glir pam mae angen Ymchwiliad Annibynnol i Covid yng Nghymru,” meddai.

Tynnodd sylw at ddogfennau rheoliadau’r Llywodraeth ar ddelio gydag achosion brys o glefydau prin gan ddweud nad oeddent wedi cael eu diweddaru ers 2011.

Dywedodd hefyd nad oedd cynllun trosglwyddadwy ar gyfer clefydau newydd wedi cael ei ddiweddaru ers 12 mlynedd.

Ar y pryd, doedd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddim yn gweld yr angen i baratoi asesiad risg Cymru benodol oherwydd ei fod yn credu nad oedd cyfiawnhad i ddefnyddio’r adnoddau byddai eu hangen i wneud hynny.

Yn ôl Mark Drakeford, roedd y bygythiad o Brexit ddigytundeb yn golygu bod yn rhaid tynnu arian oddi wrth gynlluniau pandemig.

‘Rhaid dysgu o wersi’

Mae Mabon ap Gwynfor hefyd wedi beirniadu’r diffyg adnoddau amddiffynnol oedd ar gael ar y pryd gan ddweud er bod disgwyliad y byddai’r pandemig yn parhau am 15 mis nid oedd digon o offer i wneud hynny.

Wynebodd y cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, feirniadaeth yr wythnos hon am gyfaddef nad oedd wedi darllen yr adroddiad Cygnus, sy’n ymwneud a pharatoi at bandemig, hyd at yr ymchwiliad.

Yn ogystal, cyfaddefodd Mark Drakeford ddydd Mawrth (Gorffennaf 4) nad oedd Llywodraeth Cymru “mor barod ag y gallai fod” ar gyfer y pandemig.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod yn rhaid dysgu o wersi’r pandemig coronafeirws er mwyn bod mor barod â phosib ar gyfer firysau yn y dyfodol.

“Mae angen inni ofyn bob un o’r cwestiynau anodd, a chael ateb gonest a thryloyw er mwyn dysgu’r gwersi a rhoi’r cyfle gorau inni gael pethau yn eu lle ar gyfer unrhyw achosion yn y dyfodol.”

‘Cuddio rhag ymholiad annibynnol’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “guddio rhag ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru.”

“Rydym angen ymchwiliad annibynnol i Covid Cymru i graffu’n briodol ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig,” meddai arweinydd y blaid, Andrew RT Davies.

“Mae Llafur wedi rhedeg ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i’r ddaear ers 25 mlynedd ac wedi bod yn gyfrifol am ein parodrwydd ar gyfer pandemig ac mae’n hen bryd i deuluoedd mewn profedigaeth dderbyn yr atebion y maent yn eu haeddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cymryd rhan lawn yn ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, sydd bellach wedi dechrau ac rydym yn falch y bydd Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19 hefyd.”