Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i osod terfyn cyflymder o 20mya ar y ffyrdd eto.

Daeth y feirniadaeth yn ystod dadl yn y Senedd prynhawn heddiw (Mehefin 5) pan wynebodd y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters gwestiynau gan yr wrthblaid.

“Rwyf yn cytuno terfynau 20mya wedi’u targedu y tu allan i ysgolion, mannau chwarae, strydoedd mawr prysur, ond nid fel polisi ar gyfer Cymru gyfan,” meddai llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.

Fodd bynnag, ymateb Lee Waters oedd mai “nid polisi cyffredinol” yw’r terfynau cyflymder.

Wythnos diwethaf trafodwyd deiseb a oedd wedi derbyn 21,000 o lofnodion yn gwrthwynebu’r cynlluniau yn y Senedd.

Ond, mae’r gweinidog yn dadlau y bydd pobol yn ddiolch am y newidiadau mewn blynyddoedd i ddod oherwydd y byddan nhw wedi achub bywydau, lleihau sŵn, gwella teithio llesol a chryfhau cymunedau.

‘Cymru’n gwrthwynebu’n gryf’

Wrth gyfeirio at y ddadl yn y Senedd heddiw, dywedodd Natasha Asghar bod “pobol Cymru’n gwrthwynebu’n gryf gweithredu terfynau cyflymder rhagosodedig 20mya.”

“Mae’n ymddangos nad yw’r Gweinidog Llafur yn gallu ystyried canlyniadau ehangach y polisïau hyn,” meddai.

“Bydd cymudwyr, teuluoedd a hyd yn oed teithwyr bws yn dioddef oherwydd y mesurau hyn ac mae’n amlwg bod Llafur yn dangos diffyg pryder llwyr.

“Bydd ei weithredu’n effeithio’n andwyol ar fywydau dyddiol pobol, gan wneud eu teithiau’n hirach ac yn anoddach.”

Disgwylir y bydd y bil, fydd yn dod i rym ar Fedi 17, yn costio oddeutu £5.5 biliwn i economi Cymru.

Camgymeriadau wrth bleidleisio

Cyfeiriodd Natasha Asghar hefyd at y ffaith bod Lee Waters wedi pleidleisio yn erbyn Llywodraeth Cymru deirgwaith dros wythnosau ddiweddar.

Y diweddaraf oedd ar Fehefin 6 pan bleidleisiodd o blaid y Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, pwnc oedd wedi derbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr ond oedd wedi ei wrthwynebu gan y Llywodraeth.

“Yna eto sut allwn ni ddisgwyl i’r gweinidog allu gwneud penderfyniadau cymwys dros rwydwaith ffyrdd Cymru pan na all hyd yn oed bleidleisio’n gywir gyda’i Lywodraeth ei hun yn y siambr,” meddai Natasha Asghar.

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth eisoes wedi cyfeirio at y pleidleisiau fel “camgymeriadau” ac wedi eu priodoli nhw i “diffyg canolbwyntio.”

‘Lleihau damweiniau, arbed bywydau’

Un arall sydd wedi codi pryderon yw’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Llŷr Gruffydd.

Er iddo gefnogi’r ddeddfwriaeth yn wreiddiol, mae wedi dweud erbyn hyn bod nifer y ffyrdd sydd yn cael eu heithrio rhag y newid yn y gogledd “llawer is” nag yr wedi rhagweld.

“Fy her i’r dirprwy weinidog yw beth mae ef a’r Llywodraeth yn ei wneud yw gwneud yn siŵr nad yw awdurdodau lleol yn dod i’r casgliad ei bod yn haws gwneud popeth yn 20mya yn unig,” meddai.

Er hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y bil yn “gwella ansawdd bywyd.”

“Cafodd deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya ei chymeradwyo gan fwyafrif mawr yn y Senedd yn gynharach y mis hwn,” meddai.

“Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, bydd yn gwneud y terfyn rhagosodedig o 20mya.

“Fydd gostwng cyflymder nid yn unig yn lleihau damweiniau ac yn arbed bywydau, bydd hefyd yn helpu i wella ansawdd bywyd.”