Mae’r Heddlu Metropolitan wedi ailagor eu hymchwiliad i achosion posib o dorri rheolau Covid a ddigwyddodd yn ystod mis Rhagfyr 2020.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf yn nodi bod yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi mynychu digwyddiad yn San Steffan tra roedd cyfyngiadau mewn grym.
Daeth y digwyddiad o dan y lach wedi i’r cyn-Brif Weinidog, Boris Johnson, feirniadu’r Ceidwadwr Bernard Jenkin gan honni ei fod wedi mynychu dathliadau pen-blwydd ei wraig, y Farwnes Jenkin, yn San Steffan.
Yn ôl adroddiadau, roedd neges WhatsApp gan y Farwnes ddisgrifio’r digwyddiad fel “diodydd pen-blwydd.”
‘Camgymeriad ennyd o farn’
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig Virginia Crosbie eisoes wedi cyfaddef ei bod hi wedi mynychu’r digwyddiad ac wedi “ymddiheuro yn ddiamod” am y weithred.
“O ran adroddiadau am ddigwyddiad a gynhaliwyd ar Ragfyr 8 2020 hoffwn nodi’r ffeithiau,” meddai mewn datganiad.
“Nid fi anfonodd y gwahoddiad ar gyfer y digwyddiad hwn.
“Mynychais y digwyddiad am gyfnod byr, ond wnes i ddim yfed a doeddwn i ddim yn dathlu fy mhen-blwydd.
“Es i adref yn fuan wedyn i fod gyda fy nheulu.
“Rwy’n ymddiheuro’n ddiamod am gamfarnu wrth fynychu’r digwyddiad”.
Er hynny, mae arweinydd cyngor Môn, Llinos Medi, wedi galw ar Virginia Crosbie i gyfeirio ei hun at yr heddlu.
Ailagor ymchwiliad
Bydd yr ymchwiliad, sydd wedi cael ei ailagor, yn mynd ati i edrych ar y digwyddiad ar Ragfyr 8, ar y cyd â digwyddiad arall a gynhaliwyd ar Ragfyr 14 2020.
Daw hyn wedi i ddeunydd fideo gael ei ryddhau fis diwethaf o staff Ceidwadol yn partïo ym Mhencadlys Ymgyrchu’r Ceidwadwyr, er gwaethaf cyfyngiadau cyfnod clo.
Fel rhan o’r ymchwiliad, bydd holiaduron yn cael eu hanfon i’r rheiny a fynychodd y digwyddiadau er mwyn gofyn a oedd ganddyn nhw “esgus rhesymol” dros fynychu.
Fodd bynnag, mae’r heddlu wedi cadarnhau na fydd cyfres o ddigwyddiadau eraill a gynhaliwyd rhwng 2020 a 2021, lle credir bod Boris Johnson yn bresennol, yn cael eu hymchwilio ymhellach.
“Yn dilyn asesiad o ddeunydd yn ymwneud â chynulliad yn y Senedd, mae’r Heddlu Metropolitan yn agor ymchwiliad i achosion posibl o dorri’r Rheoliadau mewn digwyddiad ar Ragfyr 8 2020,” meddai llefarydd.
Maent wedi cadarnhau y byddan nhw’n darparu diweddariadau pellach “pan fo’n briodol.”