Dylai gofalwyr dderbyn yr un cyflog â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, medd gwleidyddion a chynghorwyr.
Ar ben-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed heddiw (Gorffennaf 5), mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, wedi dweud bod angen codi cyflogau gofalwyr er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn un cynaliadwy.
Mae Helena Herklots am weld amodau gwaith yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.
Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd llefarydd gofal cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, Gareth Davies, y dylid gwella cyflogau gofalwyr dros Gymru er mwyn “cydnabod eu gwaith allweddol”.
“Mae pobol yn cymryd gofalwyr yn ganiataol nes eu bod nhw eu hangen nhw,” meddai’r Aelod o’r Senedd.
“Mae’n parhau i fy siomi nad ydy pobol yn gwerthfawrogi gwaith caled ac ymrwymiad y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal, pobol sy’n chwarae rhan llawn mor bwysig wrth ofalu am bobol pan maen nhw fwyaf agored i niwed.”
Yn sgil hynny, mae Gareth Davies wedi gofyn cwestiwn yn y Senedd heddiw yn holi sut mae’r Gweinidog Llafur dros ofal cymdeithasol wedi asesu’r sylwadau gafodd eu gwneud gan Helena Herklots.
‘Cefnogaeth hollbwysig’
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi adnewyddu ei alwad am fwy o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David o Ben-y-bont ar Ogwr, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bod angen cynyddu’r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i amddiffyn y gwasanaeth iechyd am flynyddoedd i ddod.
“Y gwasanaethau yma sy’n darparu cefnogaeth hollbwysig yn gorfforol, emosiynol ac yn gymdeithasol, fel bod pobol yn gallu byw bywydau iach yn eu cymunedau eu hunain ac i ffwrdd o ystafelloedd aros mewn ysbytai neu feddygfeydd.
“Trwy leihau’r galw ar ysbytai trwy waith ataliol gan gynghorau mewn cymunedau, gallwn fynd i’r afael â’r hyn sy’n rhoi pwysau yn y system.
“Mae llywodraeth leol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r sector iechyd ehangach i hybu gofal cymunedol ac i leddfu’r pwysau ar y system gyfan.
“Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog am ymrwymo hyd at £30 miliwn i helpu i gryfhau capasiti.
“Ond rhaid i ni feddwl yn wahanol am iechyd a llesiant ac i anelu at atal pobol rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf.
“Mae atal yn well na gwella a, thrwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i fod yno i’r rhai sydd eu hangen am y 75 mlynedd nesaf a thu hwnt i hynny.”
‘Cydnabod y rôl anhygoel’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod y rôl anhygoel y mae gweithwyr gofal yn ei chwarae” a’u bod nhw wedi ymrwymo i wella amodau gwaith a’i wneud yn yrfa fwy deniadol.
“Rydyn ni wedi buddsoddi £70m i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, ac mae’r cynnydd sylweddol yn setliad llywodraeth leol 2023-24 yn dangos ein hymrwymiad i ddelio â’r pwysau mewn gofal cymdeithasol.
“Rydym yn cymryd camau i broffesiynoli’r sector, gwella statws gofal cymdeithasol a chreu mwy o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa.”