Difyr oedd erthygl Dr Sara Louise Wheeler yn datgan bod yn rhaid i iaith ddatblygu a chreu fersiynau newydd o’i hun. Dwi’n cytuno gant y cant.
Ond nid tafodiaith a fersiynau newydd sy’n datblygu ydi llawer o’r hyn sydd ar ein tonfeddi Cymraeg bellach.
Yn ddiweddar dwi wedi clywed darlledwyr honedig broffesiynol yn rwdlan am ddigwyddiadau “really amazing” ac “exciting” maen nhw’n eu “love-io”, a bod “sneak peak” yn gallu bod yn “guilty pleasure” “back in the day” pan oedd gynnoch chi “two minutes bach”. Rhaid ar adegau ydi cael “diwrnod recharge the batteries”, wrth reswm, neu hyd yn oed gyfle i “take the rest of the day off”. Ond bydd raid ichi ofalu i “hold on tight”.
Alla’ i ddim gwadu bod rhai pobol yn siarad fel yna. Ond nid darlledwyr proffesiynol mohonyn nhw, yn cael eu talu’n hael am siarad Cymraeg. Ers talwm, awduron, pregethwyr, a siaradwyr cyhoeddus eraill oedd yn nodi pa fath o Gymraeg y dylid anelu amdano, nid fod pawb yn mynd i’w gyrraedd.
Ers degawdau bellach rôl darlledwyr ydi gosod y safon honno. Nid oes disgwyl i bawb gadw ati. Ond wrth ostwng y safonau i lefel mor sgrwtshlyd, does wybod sut fath o iaith fydd i’w glywed ar y stryd cyn hir. Ac a fydd mwngrel o iaith sy’n gymysgedd o Gymraeg gwael a thoreth o Saesneg sy’n aml yr un mor wael yn werth ei chadw?