Ers blynyddoedd maith, bu gweledigaeth gan y Cymry: hawliau ieithyddol i’r Gymraeg; ysgolion cyfrwng Gymraeg; sianel Gymraeg; cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg; a gweld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob agwedd ar y gymdeithas.
Maes o law, daeth deddfau ac yna’r Ddeddf Iaith. Daeth ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys rhai yn ardaloedd y gororau megis Wrecsam, a chafodd cenedlaethau ohonom ein haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg; bu oedolion wrthi’n dysgu hefyd.
Yna, roedd y weledigaeth wedi’i hymgorffori mewn strategaeth llywodraeth a’i meintioli: Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050. Uchelgeisiol a chanmoladwy. Ond sut, mewn gwirionedd, roedd pawb yn disgwyl i hyn oll edrych?
Mae ieithoedd a diwylliannau’n faterion cymhleth, deinamig, sy’n cael eu heffeithio gan nifer anfeidrol o ffactorau newidiol. Dyw’r canlyniadau ddim at ddant pawb, ond beth yw’r opsiwn amgen?
Ddim yn Gymraeg iawn chwaith…
Daw teulu fy nhad o Rosllannerchrugog – pentref sydd nawr yn rhan o ddinas-sir Wrecsam. Dyma ardal wnaeth dyfu’n sydyn iawn oherwydd y diwydiant glo. Roedd yna gymaint o waith yn y pyllau niferus, fel y daeth pobol o bedwar ban y byd i setlo ene.
Bu’r sawl ‘di-Gymraeg’ wrthi’n dysgu, ac wrth wneud hynny, effeithio ar gystrawen a geirfa, gyda’r iaith fain yn gwneud ei marc. Daeth tafodiaith y Rhos yn adnabyddus am fod yn annealladwy, bron, i weddill y Cymry.
Mi roedd yna rai oedd yn casáu tafodiaith y Rhos ers talwm, a chafodd y ‘bri negyddol’ hyn ei nodi gan yr ieithydd Mari C Jones yn ei hymchwil arloesol yn y fro.
Cefais fy magu yng nghysgod y bri negyddol hyn, gyda Mam yn dod adref o wersi Cymraeg yn dweud bod ei thiwtor yn honni nad oedd rhai o’r geiriau roedd hi wedi’u dysgu gan fy nhad yn eiriau wedi’r cwbl.
Yn y cyfamser, mi roedd Nain a’i chwaer, Gwladys, yn hollol argyhoeddedig nad oedd eu Cymraeg nhw “ddim yn Gymraeg iawn chwaith”… er taw dyna oedden nhw’n ei siarad ran helaeth o’r amser..
Ymhen hir a hwyr, enillodd tafodieithoedd eu lle yng ngwead stori’r iaith Gymraeg, ac mi rydw i nawr yn defnyddio Rhoseg (ryw ychydig) yn fy ngwaith ysgrifennu, gan gynnwys fa’ma, heb iddi gael ei disodli gan ‘Gymraeg safonol’.
Wenglish ar S4C
Bu brwydr daer dros gael y sianel Gymraeg S4C, ac mae ymgyrchwyr iaith dros y blynyddoedd wedi cwyno fod yna gormod o Saesneg ar S4C.
Yn ddiweddar, bu Gwilym Dwyfor yn herio’r portread o Wenglish Wrecsam ar Pobol y Cwm, gan ei galw’n ‘hynod annaturiol’; dywedodd nad oedd yn dafodiaith Wrecsam yr oedd e’n gyfarwydd â hi.
Fel un o Wrecsam, ymatebais gydag erthygl yn esbonio ei bod yn gyfarwydd iawn i mi, gan ddyfynnu cerdd bardd mwyaf adnabyddus Wrecsam, Aled Lewis Evans, oedd yn crybwyll y fersiwn Nadsat hyn o Wrecsameg.
Gyda hynny, des â phersbectif gwyddonias i mewn i’r drafodaeth – fy hoff genre, ac un sy’n ddefnyddiol i ni wrth geisio deall y penbleth ieithyddol hyn.
Mae ieithoedd yn addasu ac yn newid o hyd, gan hollti’n ganghennau o fersiynau newydd; caiff hyn ei gyfleu’n effeithiol iawn mewn storïau megis ‘Cloud Atlas’. Mae’n anochel. Mae yna le i S4C adlewyrchu hyn.
Polisi iaith y Brifwyl
Yn ddiweddar, daeth polisi iaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan y chwyddwydr, wedi iddyn nhw bwcio Sage Todz i berfformio… ac yna tynnu’r cynnig yn ôl ar sail ‘Wenglish v Cymraeg’.
Mae’n gymhleth, wrth gwrs, ond yn bersonol dw i’n teimlo’n ddreng drosto – yn ddreng, gyda llaw, yn yr ystyr Rhos, sef angry, yn hytrach na morose mewn ‘Cymraeg safonol’.
Does neb yn mwynhau wastio amser a cael eu siomi munud olaf fel yna. Parch iddo fe am ei ymateb urddasol… fysa fy ymateb i wedi bod yn fwy ‘Bruce Banner’, dw i’n credu!
Trwy gyd-ddigwyddiad, fues innau’n edrych ar hanes y polisi iaith yn ddiweddar. Yn ôl pob sôn, does dim modd gosod cystadleuaeth farddoniaeth iaith arwyddo (Sign language poetry) gan y byddai hynny yn torri’r polisi iaith; dim trugaredd i’n chwaer-iaith lleiafrifol hyd yn oed!
Ac ydw, dw i wedi sylwi ar ddehonglwyr mewn sawl digwyddiad diwylliannol, ac ydi, mae hynny’n medru gwneud ein Prifwyl yn fwy hygyrch i bobol Fyddar.
Ond nid dehongli diwylliant ‘pobol-sy’n-clywed’ oedd gen i mewn golwg, ond rhoi platfform i IAITH a DIWYLLIANT a LLENYDDIAETH y GYMUNED Byddar (priflythrennau’n fwriadol fa’ma). Ond dadl arall ydi nene, mae’n llenyddiaeth (a chymuned) wedi ei hamharchu, wedi’r cwbwl.
A chyn i mi dewi, ys gwn i os wnes i dorri’r polisi iaith wrth berfformio fy nghân ‘Diolch i Dregaron’ (am roi’r ‘Steddfod i ni) oedd yn cynnwys y geiriau:
Dw i’n berson ffodus, dwi o seithfed dinas Cymru,
a hoffwn ganu i chi gyd – Bragdy’r Beirdd
am y ffaith, fod yr ŵyl, ene’n fuan!
A tydi ‘ene’ ddim yn air Gymraeg wrth gwrs… ddim yn ‘Gymraeg iawn’, beth bynnag… er… wel… fydd rhaid i mi watsiad fy hun!