Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gloddio yn Ffos-y-Fran, safle glo brig mwyaf y Deyrnas Unedig.
Byddai’r gorchymyn wedi rhoi 28 diwrnod i roi’r gorau i gloddio ond golyga’r apêl y gall y sefyllfa barhau am fisoedd os na fydd unrhyw weithredu.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, maent wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, er mwyn galw ar y Llywodraeth i ddefnyddio eu pwerau er mwyn atal y cloddio.
Dywedon nhw eu bod nhw hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Cyngor Merthyr Tudful a’r awdurdod cynllunio ar Fehefin 30.
‘Ar draul y blaned’
Yn eu llythyr, mae Cyfeillion y Ddaear yn datgan bydd diffyg gweithredu “yn anfon arwydd ofnadwy bod glo anghyfreithlon yn cael ei oddef yng Nghymru, er gwaethaf eich polisïau hinsawdd i’r gwrthwyneb”.
Maent eisiau i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhybudd i roi’r gorau i gloddio cyn gynted â phosib gan nad yw’r cyngor lleol wedi gwneud hynny.
“Mae’n warthus bod mwyngloddio’n cael parhau yn Ffos-y-Fran, yn groes i ddymuniadau’r gymuned leol ac ar draul y blaned,” meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar.
“Er mwyn i Gymru gael ei gweld fel arweinydd hinsawdd, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i atal y mwyngloddio, a defnyddio eu pwerau i atal y mwyngloddio yn ddi-oed.”
Gwahaniaethau cyfreithiol
Mae’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Peredur Griffiths, eisoes wedi egluro arwyddocâd y gwahaniaethau mewn cyfraith yng Nghymru a Lloegr wrth golwg360.
Dywedodd nad oes yn rhaid i gloddio dod i ben pan mae apêl yn mynd trwyddo yng Nghymru.
“Yn Lloegr, os oes apêl yn mynd drwyddo, mae’n rhaid stopio popeth nes bod yr apêl yn cael ei glywed,” meddai.
“Y gwahaniaeth yng Nghymru ydy eu bod nhw’n gallu mynd ati i fwyngloddio tra mae’r apêl yn mynd trwyddo oni bai eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad.”
‘Rhaid gweithredu nawr’
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi honni bod tystiolaeth ffotograffig, sydd wedi cael ei ddarparu gan drigolion, bod Merthyr (South Wales) Ltd yn parhau i gloddio yn y safle, er bod y caniatâd i wneud hynny wedi dod i ben.
“Oni bai bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r her ac yn cyflwyno’r hysbysiad atal mae’n ymddangos yn anochel y bydd y mwyngloddio anghyfreithlon yn parhau dros y misoedd a’r blynyddoedd hyd yn oed nesaf,” meddai arbenigwr cynllunio Cyfeillion y Ddaear, Magnus Gallie.
“Rhaid i weinidogion weithredu nawr i warchod yr hinsawdd ac i ddangos i weithredwyr mwynau eraill na fydd ‘hapchwarae’ yn y system gynllunio yn cael ei oddef mwyach.”
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau’r wythnos ddiwethaf bod y cwmni’n apelio yn erbyn y penderfyniad, ond dydyn nhw ddim wedi rhoi ymateb pellach, gan nad ydyn nhw am “beryglu unrhyw benderfyniad y bydd yn rhaid i weinidogion Cymru ei wneud ar y mater yn y dyfodol.”