Mae bwi monitro bywyd gwyllt wedi cael ei osod yn y môr oddi ar arfordir Caergybi, gan nodi “carreg filltir arwyddocaol” i’r sector ynni llanw yng Nghymru.

Mae’r fenter yn rhan o waith paratoi cyn gosod tyrbinau yn y môr ar gyfer cynllun ynni llanw Morlais.

Yn rhan o Brosiect Ymchwil Nodweddion Morol (MCRP), ac wedi ei arwain gan Menter Môn, pwrpas y bwi yw casglu data er mwyn sicrhau diogelwch bywyd gwyllt pan fydd tyrbinau yn cael eu gosod yn y dŵr oddi ar arfordir Ynys Cybi maes o law.

Mae technoleg casglu data ar fwrdd y bwi, sydd wedi teithio o Ynys Erch, yn cynnwys camerâu is-goch tanddwr a chamerâu ar wyneb y môr, yn ogystal ag offer mesur sain.

Mae’r bwi yn cael ei yrru a’i bweru gan ynni solar a gwynt.

“Ymchwil amgylcheddol”

Yn ôl Clare Llywelyn y rheolwr prosiect bydd y bwi yn helpu i wneud gwaith ymchwil amgylcheddol, ac yn help i adnabod rhywogaethau.
“Bydd y bwi yn ein helpu ni i wneud gwaith ymchwil amgylcheddol fydd yn werthfawr wrth i ni gefnogi datblygiad ynni llanw Morlais a chynlluniau tebyg eraill ar draws y byd” eglura Clare Llywelyn.

“Mae’r data rydym yn ei gasglu yma yn Ynys Môn yn hollbwysig a bydd ar gael i’w rannu gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy morol eraill i’r dyfodol.

“Y prif ffocws yw treialu dulliau casglu data gweledol yn ogystal â dadansoddi’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu i adnabod rhywogaethau.

“Bydd y prosiect yn ein helpu i ddysgu mwy am y mamaliaid morol sy’n byw yn yr ardal a sut y gallwn eu hamddiffyn nhw.”

“Datblygiad cyffrous”

Mae’r datblygiadau yn rhan o waith i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd yn yr ardal, meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, a dyma’r darn cyntaf o offer i gael ei osod yn y môr yn fan hyn wrth i ni wneud gwaith monitro i baratoi ar gyfer Morlais,” meddai.

“Rydym yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar  fel rhan o’r prosiect a bydd yr ymchwil yn allweddol i dwf y sector ynni’r llanw ledled y byd.

“Mae sicrhau bod bywyd gwyllt a chynefinoedd morol lleol yn cael eu diogelu wedi bod yn bwysig i ni ers y cychwyn wrth i ni ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy – mae’r prosiect yma a’r bwi yn rhan o’n strategaeth i wneud hynny.”

Trwy MCRP, mae Menter Môn yn gweithio gyda rhwydwaith o academyddion blaenllaw a busnesau o fewn y sector ynni llanw, i ddatblygu cynllun ar gyfer y diwydiant.

Pan fydd y rhan hwn o waith MCRP wedi dod i ben mae disgwyl i’r gwaith o osod tyrbinau yn y môr ar gyfer Morlais gychwyn yn 2026.