Ni fydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn bodoli mewn 75 mlynedd heb “weithredu brys a llym”, mae Plaid Cymru yn rhybuddio.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 5), a hynny mewn cyfnod ansicr o’i hanes, yn ôl y blaid.
Mae amseroedd aros yn uwch nag erioed ac roedd staff y gwasanaeth iechyd hefyd ar streic ynghylch tal ac amodau yn gynharach eleni.
Wrth dalu teyrnged i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i egwyddor sylfaenol o ddarparu iechyd am ddim ar y pwynt o angen i bawb, rhybuddiodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor fod “tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phedair blynedd ar hugain o gamreoli Llafur wedi gadael y gwasanaeth ar ei gliniau”.
Rhybuddiodd efallai na fyddai’r gwasanaeth iechyd yn goroesi am 75 mlynedd arall heb “weithredu llym”.
Dywedodd y gallai cynllun pum pwynt Plaid Cymru helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru – gan gynnig atebion uniongyrchol a thymor hirach megis mynd i’r afael ag amseroedd aros, buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, a gweithredu cynllun gweithlu i recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys.
‘System iechyd a gofal cymdeithasol tecach, gryfach a gwell’
“75 mlynedd yn ôl, ganed y gwasanaeth iechyd yng Nghymru – gan arwain y ffordd o ran darparu gofal iechyd am ddim i bawb yn ôl yr angen,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Mae Plaid Cymru yn hynod falch o’n gwasanaeth iechyd a’r staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy am y 75 mlynedd diwethaf.
“Nhw yw asgwrn cefn ein system gofal iechyd – hebddyn nhw, nid oes gwasanaeth iechyd.
“Ond mae 13 mlynedd o doriadau’r Torïaid a 24 mlynedd o gamreoli Llafur wedi’i adael ar ei gliniau, gyda chanlyniadau iechyd gwaeth a gweithlu sydd ar erchwyn y dibyn.
“Mae amseroedd aros ar y lefelau uchaf erioed.
“Mae byrddau iechyd yn styc mewn mesurau arbennig.
“Mae staff a chleifion ar eu pennau eu hunain.
“Ni fydd ein gwasanaeth iechyd yn goroesi saith deg pum mlynedd arall heb weithredu brys a llym.
“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd gwell.
“Byddem yn blaenoriaethu darparu bargen gyflog deg i weithwyr y gwasanaeth iechyd ac yn gweithredu cynllun gweithlu i recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys trwy wneud ein gwasanaeth iechyd yn lle deniadol i weithio ynddo.
“Byddem yn blaenoriaethu mesurau iechyd ataliol ac yn sicrhau symudiad di-dor o iechyd i ofal cymdeithasol i fynd i’r afael ag amseroedd aros.
“Byddem yn adfer ymddiriedaeth rhwng cleifion a’n gwasanaeth iechyd drwy roi diwedd ar gamreoli.
“Gyda’n gilydd, gallwn ailadeiladu ein gwasanaeth iechyd, gan ei wneud yn addas i’r diben: system iechyd a gofal cymdeithasol tecach, gryfach a gwell yng Nghymru, yn rhad ac am ddim pan yn ôl yr angen i bawb sydd ei angen – o’r crud i’r bedd.”