Mae Comisiynydd Plant Cymru yn poeni am deuluoedd â phlant dros yr haf, wedi i Lywodraeth Cymru ddweud na fydd disgyblion yn cael prydau bwyd am ddim dros y gwyliau ysgol.
Cyflwynwyd y cynllun yn ystod pandemig i helpu plant rhag mynd heb fwyd yn ystod gwyliau’r ysgol, ac i helpu teuluoedd sy’n cael trafferth yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y cynnig wedi rhedeg yn ystod hanner tymor mis Mai am y tro olaf, ac na fydd ar gael ar gyfer gwyliau’r haf eleni na thu hwnt.
Dan y cynllun roedd rhieni a gofalwyr gyda phlant a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael cynnig amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys talebau, pecynnau bwyd, neu arian.
Yn hytrach, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cynllun Bwyd a Hwyl gwyliau’r haf yn cael ei ariannu, ac yn rhedeg eto ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol am y tro cyntaf.
Enw swyddogol Bwyd a Hwyl yw Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, ac mae’n rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, “sesiynau cyfoethogi”, a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau haf.
‘Cydnabod y straen ar arian cyhoeddus’ ond yn ‘bryderus’
Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes: “Dywedodd nifer sylweddol o blant a gwblhaodd fy arolwg cenedlaethol llynedd eu bod yn poeni am gael digon i’w fwyta.
“Dywedodd rhieni eu bod yn poeni am fwydo eu plant, a chost y diwrnod ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol.
“Er fy mod i’n cydnabod y straen ar arian cyhoeddus, mae’n eironi trist fod Llywodraeth Cymru, yn fuan ar ôl cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant ddrafft, wedi cyhoeddi gostyngiad i’r cymorth hollbwysig yma.
“Rydw i’n bryderus iawn am y plant hynny a sut y bydd eu teuluoedd yn ymdopi dros yr haf, yn enwedig gyda chostau byw yn dal yn anhygoel o uchel, yn arbennig ar gyfer bwyd.
“Ni ddylai plant fynd heb fwyd yng Nghymru, a dw i’n poeni y bydd y newid hwn yn cynyddu’r nifer sydd yn.
“Mae’r ymyriadau hyn gan Lywodraeth Cymru wedi darparu cymorth hollbwysig i blant a theuluoedd yng Nghymru.
“Nid nawr yw’r amser i leihau’r cymorth yma.
“Mae teuluoedd dal yn wynebu pwysau sylweddol.
“Rydw i wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar eu penderfyniadau fel y gallwn ddeall yn well sut maen nhw’n meddwl y bydd effaith y penderfyniadau yma ar blant yn cael eu lleddfu.”
‘Ymyriad dros dro’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ymyriad dros dro mewn argyfwng, mewn ymateb i’r pandemig, oedd ymestyn prydau ysgol am ddim i gyfnod y gwyliau.
“Yn dilyn nifer o estyniadau, fe wnaethon ni gadarnhau ym mis Mawrth y bydden ni’n cyllido’r trefniant tan ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai.
“Yn ystod yr haf, bydd yna brosiectau gwyliau o bob math ar gael ledled Cymru, gan gynnwys cynllun Bwyd a Hwyl, yr ydyn ni’n ei gyllido, a bydd ar gael ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol am y tro cyntaf.
“Rydyn ni’n parhau i gefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw, ac rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £3.3bn mewn rhaglenni a chynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol.”