Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cwmnïau a fydd yn cau Gwesty Parc y Strade i gynnal ceiswyr lloches heb ganiatâd cynllunio.

Yn ôl adroddiadau, bydd y gwesty’n cael ei ddefnyddio i letya hyd at 241 o geiswyr lloches mewn 76 ystafell.

Cafodd 95 aelod o staff y gwesty wybod mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf y byddan nhw’n cael eu diswyddo, yn dilyn e-bost gafodd ei hanfon.

Mae hyn yn cynnwys 50 aelod o staff llawn amser a 45 rhan amser, fydd yn colli eu swyddi’n swyddogol wedi i’r ceiswyr lloches symud i mewn ar Orffennaf 10.

Bydd yr holl ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn y gwesty wedi’r dyddiad hwnnw, megis priodasau, hefyd yn cael eu gohirio.

Daw’r cynlluniau gan y Swyddfa Gartref, sy’n honni eu bod nhw wedi gwrando ar anghenion y gymuned.

Gwrandawiad yn yr Uchel Lys

Dywedodd y cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street ynghylch newid defnydd sylweddol Gwesty Parc y Strade, Llanelli heb ganiatâd cynllunio.

“Bydd yr achos yn destun gwrandawiad ar 7 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, Strand, Llundain.

“Nid yw’r Cyngor yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd yr angen i barchu’r broses gyfreithiol sydd ar waith.”

Gwesty Parc y Strade: Angen cymorth wrth i 95 o weithwyr golli eu swyddi

Mae Vaughan Gething, Cefin Campbell a Jane Hutt ymysg y rhai sy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno mwy o gymorth