Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnig cymorth i weithwyr sydd ar fin colli eu swyddi yng ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.
Yn ôl adroddiadau, bydd y gwesty’n cael ei ddefnyddio i gynnal hyd at 241 o geiswyr lloches mewn 76 ystafell.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor Ffoaduriaid wedi mynegi pryderon na fydd y ceiswyr lloches yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yno.
Cafodd 95 aelod o staff y gwesty wybod mewn cyfarfod ddydd Mawrth (Mehefin 27) y byddan nhw’n cael eu diswyddo, yn dilyn e-bost gafodd ei hanfon.
Mae hyn yn cynnwys 50 aelod o staff llawn amser a 45 rhan amser, fydd yn colli eu swyddi’n swyddogol wedi i’r ceiswyr lloches symud i mewn ar Orffennaf 10.
Bydd yr holl ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn y gwesty wedi’r dyddiad hwnnw, megis priodasau, hefyd yn cael eu gohirio.
Daw’r cynlluniau gan y Swyddfa Gartref, sy’n honni eu bod nhw wedi gwrando ar anghenion y gymuned.
‘Anhapusrwydd dwfn’
Fodd bynnag, mae Vaughan Gething wedi datgan ar Twitter y bydd yn ysgrifennu at yr Adran Busnes a Masnach.
“Rwyf heddiw yn ysgrifennu at Adran Busnes a Masnach y Deyrnas Unedig yn nodi fy anhapusrwydd dwfn ynghylch y penderfyniad hwn a’r ffordd anhrefnus, anghyfrifol y cafodd ei drin,” meddai.
“Nid dyma’r ffordd i drin busnesau na gweithwyr.
“Rwy’ wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda’m swyddogion ar fyrder fel y gallwn gynnig cymorth a chyngor hyfforddiant ar unwaith i’r gweithwyr yr effeithir arnynt.
“Mae’r anallu hwn yn achosi niwed i gymunedau y gellid ei osgoi.
“Ac ni all fod unrhyw esgus dros ymrannu mewn modd mor amlwg sinigaidd.”
‘Gwarthus’ a ’diraddol’
Dywed Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur Llanelli, fod y penderfyniad yn “warthus” ac yn “ddiraddiol”.
“Mae hyn yn newyddion gwarthus ac yn ffordd mor warthus o drin staff presennol y gwesty sydd wedi cael eu cadw yn y tywyllwch gan berchnogion y gwesty trwy gydol y sefyllfa hon,” meddai.
“Rwyf eisoes wedi bod mewn cysylltiad â’r staff yno i gynnig fy nghefnogaeth lawn iddynt yn y cyfnod anodd hwn, ac rwyf yn falch fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau i mi y byddan nhw’n gallu, ac yn fodlon helpu hefyd.”
‘Angen model mwy cynaliadwy’
Cafodd pryderon eu mynegi hefyd gan Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn ystod cyfarfod llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28).
“Rwy’n hynod falch o’r ffaith fod Cymru yn genedl noddfa a’n bod wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth a chartref i’r rhai sy’n wynebu caledi annirnadwy boed hynny o ganlyniad i ryfel, artaith neu erlyniad,” meddai.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl glir nad yw polisi gwestai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diwallu anghenion ceiswyr lloches.
“Mae ymagwedd y Llywodraeth Dorïaidd i’r sefyllfa wedi bod yn warthus.
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi codi pryderon nad oes unrhyw adnoddau ychwanegol wedi cael eu dyrannu i fynd i’r afael a’r galw cynyddol ar wasanaethau lleol, sydd wedi cael eu stripio i’r asgwrn.”
Awgryma y dylen nhw ddefnyddio model mwy cynaliadwy o wasgaru’r ceiswyr lloches yn hytrach na’u gosod nhw mewn un gwesty, a hynny er mwyn eu cynorthwyo i integreiddio yn y gymuned.
‘Monitro’r sefyllfa’
Dywed Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru’n “monitro’r sefyllfa bryderus yn agos”.
“Rwyf wedi cael gwybod fod darparwyr llety’r Swyddfa Gartref, Clearsprings, yn archwilio cyfleoedd er mwyn cynnig cyflogaeth amgen i gyflogeidion presennol,” meddai.
“Rydym ni yn hynod siomedig, nid yn unig am sefyllfa gweithwyr y gwesty, ond hefyd am ddefnydd newydd arfaethedig yr adeilad, a sut mae wedi cael ei drin gan berchnogion y gwesty.”
Dywed ei bod hi wedi codi’r pryderon gyda Robert Jenrick, Gweinidog Mewnfudo’r Deyrnas Unedig, a’i fod yn awyddus i drafod y pwnc.