Mae map o etholaethau seneddol newydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, ac mae’n cadarnhau’r gostyngiad yn nifer yr etholaethau o 40 i 32.

Bydd argymhellion y Comisiwn yn dod i rym yn awtomatig yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, wedi i’w hadroddiad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28).

Roedd Deddf Etholaethau Seneddol 1986 yn gofyn bod y Comisiwn yn cyflwyno eu hargymhelliad terfynol ar gyfer y Diwygio erbyn Gorffennaf 1 eleni.

Bydd nifer yr etholaethau yng Nghymru yn gostwng o’r 40 presennol i 32 gyda phob un, ac eithrio Ynys Môn, yn cynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

21 etholaeth heb newid

Bydd 21 o’r etholaethau yn aros fel ag y maen nhw yn y ddogfen ddrafft, heb unrhyw newidiadau, sef:

  • Ynys Môn
  • Bangor Aberconwy
  • Gogledd Clwyd
  • Dwyrain Clwyd
  • Alun a Glannau Dyfrdwy
  • Wrecsam
  • Ceredigion Preseli
  • Canolbarth a De Sir Benfro
  • Pontypridd
  • Bro Morgannwg
  • Gogledd Caerdydd
  • De Caerdydd a Penarth
  • Dwyrain Caerdydd
  • Gorllewin Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Llanelli
  • Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Dwyrain Casnewydd
  • Blaenau Gwent a Rhymni

Enwau newydd

Bydd yr unarddeg arall un ai’n gweld newidiadau i’w henwau neu i’w ffiniau.

Er y bydd yn aros yr un fath yn ddaearyddol, bydd Merthyr Tydfil a Chynon Uchaf yn dod yn Ferthyr Tydfil ac Aberdâr, a hynny am fod y Comisiwn yn teimlo bod yr enw’n haws i’w adnabod.

Etholaeth arall fydd yn gweld newidiadau yw Dwyfor Meirionnydd.

Bydd wardiau Corwen a Llandrillo’n cael eu cynnwys yn yr etholaeth Dwyfor Meirionnydd, fydd yn cael ei alw’n Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Diwygio’r ffiniau

Bydd ardal Castell-nedd ac Abertawe hefyd yn gweld newidiadau.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig tair etholaeth dros yr ardal, sef Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe a Gwŷr.

Bydd ward Glandŵr yn cael ei chynnwys yn etholaeth Gorllewin Abertawe, tra bydd Sgiwen yn etholaeth Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, ynghyd â rhan o etholaeth bresennol Dwyrain Abertawe.

Bydd etholaeth newydd Gwŷr yn cynnwys pum ward sydd yn etholaeth Gorllewin Abertawe ar hyn o bryd.

Bydd newidiadau hefyd yn etholaethau Caerffili, Gorllewin Casnewydd, Islwyn, ac hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwm Rhondda ac Aberafan.

‘Nifer o ystyriaethau’

Roedd nifer o ystyriaethau daearyddol roedd yn rhaid i’r Comisiwn eu gwneud, gan gynnwys edrych ar siâp, maint a hygyrchedd etholaethau.

Yn ogystal, roedd yn rhaid ystyried ffiniau llywodraeth leol, ffiniau etholaethau presennol, ac unrhyw gysylltiadau lleol fyddai’n cael eu torri wrth newid y ffiniau.

Wnaethon nhw ddim ystyried canlyniadau etholiadau’r dyfodol na’r effaith y byddai’r newidiadau’n ei chael ar bleidiau gwleidyddol.

‘Bodloni gofynion y Ddeddf’

Dywed Shereen Williams, Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, fod y Comisiwn “wrth eu bodd fod eu hadroddiad Argymhellion Terfynol wedi’i osod gan y Llefarydd”.

“Rydym yn credu’n gryf mai’r argymhellion hyn yw’r ffordd orau o greu 32 etholaeth yng Nghymru sy’n bodloni gofynion y Ddeddf, gan gynnwys ystyried daearyddiaeth a chysylltiadau lleol,” meddai.

“Er nad yw rheoli gostyngiad sylweddol yn nifer yr etholaethau byth yn dasg hawdd i Gomisiwn Ffiniau, mae wedi bod yn llawer haws diolch i nifer ac ansawdd y dystiolaeth gawsom gan y cyhoedd, gan Aelodau Seneddol, gan bleidiau gwleidyddol, a chan brif gynghorau ledled Cymru.

“Hoffai’r Comisiwn nodi ein diolch i bawb gymerodd ran yn yr arolwg a chryfhau’r argymhellion.”