“Pam fod rhaid i deuluoedd newynog dalu’r pris am dorri chwyddiant?”

Dyna gwestiwn Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28), wrth iddi ofyn i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am eglurhad ynghylch pam fod un ym mhob pump o deuluoedd yng Nghymru’n wynebu newyn wrth iddyn nhw fethu fforddio bwyta.

Mae ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod 20% o oedolion yng Nghymru wedi profi ansicrwydd ynghylch bwyd dros y deuddeg mis hyd at ganol y llynedd.

Mae hyn yn gyfystyr â 753,000 o bobol yng Nghymru, ac yn golygu bod y nifer hynny o bobol wedi rhedeg allan o fwyd ac wedi methu fforddio prynu rhagor, wedi gorfod lleihau faint maen nhw’n ei fwyta, wedi llwgu, neu wedi colli pwysau o ganlyniad i ddiffyg arian.

“Barusrwydd corfforaethol” sy’n gyfrifol am y sefyllfa, yn ôl Liz Saville Roberts, ac nid “angen gweithwyr am gyflogau teg”.

‘Gwthio teuluoedd i mewn i dlodi’

Daw sylwadau Liz Saville Roberts wrth i Gita Gopinath, dirprwy bennaeth sefydliad ariannol yr IMF, rybuddio y gallai chwyddiant “ymsefydlu” a bod casgliadau’r IMF yn dangos bod elw corfforaethol wedi chwarae rhan allweddol yng nghostau cynyddol chwyddiant ledled Ewrop.

“Os yw chwyddiant am gwympo’n gyflym, rhaid i gwmnïau adael i’w helw – sydd wedi codi’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf – ostwng, ac amsugno peth o’r cynnydd disgwyliedig yng nghostau llafur,” meddai.

Yn ôl Liz Saville Roberts, “ateb y Prif Weinidog [Rishi Sunak] i chwyddiant yw gwthio teuluoedd i mewn i dlodi, tra ei fod yn gadael i elw corfforaethol bentyrru”.

“Dywedodd yr IMF yr wythnos hon mai’r ffordd o dorri chwyddiant yw i gwmnïau dorri eu helw,” meddai.

“Barusrwydd corfforaethol sy’n bwydo chwyddiant, nid angen gweithwyr am gyflog teg.

“A all e egluro wrth yr un ym mhob pump o bobol yng Nghymru sy’n wynebu newyn am nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu bwyd da, pam fod rhaid iddyn nhw dalu ei bris am ostwng chwyddiant?”

‘Dioddef o dan San Steffan’

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd fod ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos “pa mor druenus mae teuluoedd Cymru’n dioddef o dan San Steffan”.

“Wrth i gorfforaethau elwa ar yr argyfwng costau byw, mae Rishi Sunak yn fodlon ei fyd yn dweud wrth deuluoedd newynog y dylen nhw ei oddef a chadw’n dawel er mwyn torri chwyddiant,” meddai.

“O forgeisi uwch i rent yn cynyddu, cyflogau’n gostwng a llai o gyfleoedd mewn bywyd, mae’r rhain oll yn niweidio pobol ifanc yn anghymesur.

“Bydd pobol ledled Cymru, yn gywir iawn, yn dod i’r casgliad nad ydy San Steffan ar eu hochr nhw.

“Fe wnaeth Rishi Sunak ddim byd i’n darbwyllo ni i’r gwrthwyneb heddiw.”