Wrth ymateb i newidiadau i gymwysterau TGAU Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y byddai rhaglen wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer Cymru wedi sicrhau bod gan bawb y sgiliau Cymraeg gorau posib.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch y cynlluniau i uno Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth mewn un TGAU.
Ym maes Gwyddoniaeth, y bwriad yw cyflwyno cymwysterau ar wahân ar gyfer Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn hytrach na’u cyfuno.
Bydd y drefn newydd yn dod i rym yn 2025 fel rhan o’r gwaith o ad-drefnu’r cwricwlwm.
Bydd y TGAU newydd yn “edrych ac yn teimlo’n wahanol”, yn ôl Cymwysterau Cymru.
‘Gwneud-i-Gymru’
Yn ôl Toni Schiavone, Is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, mae Cymwysterau Cymru’n “bradychu 80% o bobol ifanc Cymru ac yn tanseilio egwyddorion y Papur Gwyn ar Addysg, a’r nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 trwy anwybyddu’r cyfle i sefydlu un continwwm asesu ar gyfer y Gymraeg”.
“Mae hefyd yn groes i athroniaeth Cwricwlwm i Gymru, sydd â’r nod o beidio rhoi nenfwd ar gyrhaeddiad disgyblion,” meddai.
“Enw’r cymwysterau newydd yw Gwneud-i-Gymru ond byddai rhaglen wedi eu gwneud i Gymru go iawn yn sicrhau’r sgiliau Cymraeg gorau posib i bawb.
“Ond dydy hyn yn ddim mwy nag ail-frandio’r cymwysterau Cymraeg presennol, ac mae’n agor y drws i ysgolion cyfrwng Saesneg i anwybyddu’r Gymraeg fel pwnc arholiad.
“Fe wnaeth adroddiad “Un iaith i bawb” y Dr Sioned Davies, ar sail adolygiad o Gymraeg ail iaith argymell dod â Chymraeg ail iaith i ben ddeng yn ôl, a chreu un continwwm dysgu Cymraeg.
“Rydyn ninnau wedi cyflwyno’r achos dros greu un cymhwyster a chyhoeddi model ar gyfer hynny.
“Does dim cyfiawnhad addysgol dros anwybyddu hyn oll a pharhau gyda dau gymhwyster ar gyfer y Gymraeg.”
Gwyddoniaeth
Yn y cyfamser, bydd y ffordd y caiff gwyddoniaeth ei hastudio’n newid.
Fydd disgyblion ddim bellach yn sefyll arholiadau mewn TGAU ar wahân, ond yn hytrach yn dilyn cyrsiau Gwyddoniaeth dwbl neu sengl.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r penderfyniad yn un “afresymegol ac astrus” ac mae Gwyddoniaeth yn “hanfodol er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ddisgyblion Cymreig wedi’u paratoi’n dda ar gyfer marchnad swyddi fydd yn gofyn yn gynyddol am y sgiliau a’r wybodaeth sy’n cael eu caffael yng Nghemeg, Ffiseg a Bioleg.”
Maen nhw’n dweud bod perygl y gallai disgyblion yng Nghymru gael eu gwthio o’r neilltu o gymharu â disgyblion yn Lloegr a’r Alban..