Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymateb i honiadau bod Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) Plaid Cymru wedi ei danseilio.
Yn ôl yr honiadau, roedd y pwyllgor wedi cael eu cyhuddo o danseilio’r arweinydd newydd drwy fynd ar ôl agenda oedd â’r bwriad o gyflwyno menyw i fod yn gyd-arweinydd i’r blaid.
Roedd adroddiadau’n honni bod “aelod uwch o’r Blaid nad oedd eisiau cael eu henwi” wedi dweud bod y pwyllgor eisiau “gorfodi Plaid i gael dau arweinydd i fodloni mympwy ideolegol”.
“Prin fod Rhun wedi cael ei draed o dan y bwrdd nag y mae’n cael ei danseilio gan yr NEC,” meddai’r ffynhonnell.
Fodd bynnag, ymatebodd Rhun ap Iorwerth i’r honiadau ar Twitter gan ddweud nad oedd hynny’n wir.
Dywedodd mai fe oedd wedi cyflwyno’r cynnig i weithio ar gydraddoldeb o fewn rolau arweinyddol i’r pwyllgor, mewn gwirionedd.
“Un rhyfedd, hwn – fi oedd yr un a gyflwynodd bapur i’r NEC yn cynnig gweithio ar gydraddoldeb mewn rolau arwain ar bob lefel yn y blaid, ac roedd yr NEC yn cefnogi hynny,” meddai.
“Gobeithio nad yw hynny’n rhy siomedig i’r rhai sy’n chwilio am stori fwy cyffrous!”
Ras un dyn
Cafodd Rhun ap Iorwerth ei enwi’n arweinydd newydd y blaid ar Fehefin 16, ar ôl sefyll yn ddiwrthwynebiad.
Bu i rai aelodau benywaidd o’r blaid, gan gynnwys y cyn-arweinydd Leanne Wood, rannu’r farn y dylai’r arweinydd newydd fod yn fenyw.
Dywedodd wrth raglen BBC Wales Live mai “menyw sy’n wleidydd sydd wirioneddol yn deall materion gwraig-gasineb” ddylai arwain y blaid.
Daeth ei sylwadau fel rhan o ymateb i adroddiad Prosiect Pawb Nerys Evans, oeddi wedi datgelu bod y Blaid wedi methu â mynd i’r afael â honiadau o aflonyddu a gwreig-gasineb.
Cafodd y pryderon yma eu hadleisio gan Siân Gwenllïan a Sioned Williams, dwy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, hefyd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedon nhw mai “menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma”.
Er hynny, dywedodd y tair y bydden nhw’n cefnogi Rhun ap Iorwerth fel arweinydd pe bai’n cael ei ethol, ar ôl i weddill aelodau cymwys y blaid benderfynu peidio â sefyll.