Mae Cynghorydd Ceidwadol yn dweud y bydd yn defnyddio’r enw Cymraeg ‘Bannau Brycheiniog’ er mwyn osgoi “mynd i drwbwl” wrth drafod twristiaeth.

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard John, sy’n arwain grŵp gwrthbleidiol y Torïaid ar Gyngor Sir Fynwy, restru atyniadau twristaidd yn y sir wrth fethu â darbwyllo cynghorwyr i gefnogi ei gynnig i wfftio defnyddio pwerau posib i godi treth dwristiaeth.

Roedd e eisiau i’r Cyngor llawn gytuno y byddai’r fath dâl yn “niweidiol i ddiwydiant twristiaeth y sir”, tra bod Paul Griffiths, dirprwy arweinydd y Cyngor Llafur, wedi dweud nad yw’n debygol y bydd y fath dal yn ei le cyn 2029, ac mae wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o godi’r mater at ddibenion “lecsiyna”.

“Rydyn ni’n freintiedig yn Sir Fynwy o gael cynrychioli rhai o’r rhannau harddaf o Gymru wledig,” meddai’r Cynghorydd Richard John wrth gyfarfod y Cyngor llawn, cyn dechrau rhestru atyniadau wrth gyfeirio at y ffrae ynghylch penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fis Ebrill i arddel yr enw Cymraeg ar yr ardal warchodedig sy’n cynnwys rhan o’r sir.

“Dyffryn Gwy, yr hyn y dylwn ei alw’n Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel nad ydw i’n mynd i drwbwl, Lefelau Gwent, ein trefi marchnad, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, mwy o gestyll ym mhob milltir sgwâr nag unrhyw le arall, a bryniau godidog Dyffryn Wysg.”

‘Niweidiol dros ben’

Mae’r cynghorydd sy’n cynrychioli Mitchell Troy a Thryleg – sydd, meddai, â’r dwysedd uchaf ar y cyd â Chrucornau o lety gwyliau yn y sir – yn honni y gallai’r dreth mae Llywodraeth Cymru wedi’i hargymell fel ‘cost ychwanegol fach ar aros dros nos’ ychwanegu £75 at gost gwyliau teuluol yng Nghymru.

“Byddai treth dwristiaeth yn niweidiol dros ben i economi twristiaeth Sir Fynwy ac yn ychwanegu costau i fusnesau mewn ardal lle mae gan dwristiaid ddewis eisoes o ba ochr i Ddyffryn Gwy i ymweld â hi,” meddai.

Gofynnodd hefyd a yw’r weinyddiaeth Llafur/Gwyrdd sy’n rheoli’r Cyngor yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru y gall awdurdodau lleol godi ardoll ar ymwelwyr dros nos, allai gael ei ddefnyddio i gefnogi twristiaeth a mynd i’r afael â chostau sy’n gysylltiedig â nifer fawr o ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John y dylai’r Cabinet “gyfiawnhau” unrhyw gefnogaeth i ardoll ymwelwyr, ac amlinellu sut y byddai unrhyw arian sy’n cael ei godi yn cael ei wario.

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Garrick, yr Aelod Cabinet Llafur dros Gyllid, ei bod hi’n rhy fuan i’r Cyngor ddatgan safbwynt ar y dreth dwristiaeth gan nad oes yna fanylion, a dydy hi ddim yn hysbys a fyddai refeniw posib fyddai’n deillio ohoni’n cael ei hystyried wrth asesu arian y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

“Byddai’n annoeth ac yn ymatebol amlinellu polisi yn y siambr yma ar set o gynigion nad ydyn nhw wedi’u deall yn llawn o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r cynigion eu hunain wedi’u cyhoeddi’n llawn,” meddai’r Cynghorydd dros Gastell Cil-y-coed.

Gan fod gan Sir Fynwy ryw 500 o ddarparwyr llety, gydag oddeutu 8,300 o wlâu, gallai ardoll gynnig buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, meddai, ac roedd ffigurau 2017-19 yn dangos cyfartaledd o ryw 1.1m o arhosiadau dros nos bob blwyddyn, allai gynhyrchu £1m ychwanegol o dâl o £1 ar gyfer pob arhosiad.

‘Gormod o ymwelwyr’

Fe wnaeth Emma Bryn, y cynghorydd annibynnol dros Wyesham, awgrymu y gallai llwybrau cyhoeddus, meysydd parcio a chaeau blodau gwyllt elwa ar arian ychwanegol posib.

“Dw i’n cynrychioli ward sy’n dioddef o ormod o ymwelwyr, a does gennym ni mo’r isadeiledd i ymdopi â nhw na’r arian i ddarparu ar eu cyfer nhw, a does gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol na Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddim chwaith,” meddai Sara Burch, yr Aelod Cabinet Llafur sy’n cynrychioli Cantref.

Dywedodd Lisa Dymock, Cynghorydd Ceidwadol Porthysgewin, y byddai tâl yn cael effaith ar weithwyr iau, 16 i 24 oed, sy’n aml yn gweithio mewn twristiaeth, ac yn “effeithio’n anghymesur ar y rhai sydd lleiaf abl i fforddio gwyliau ymhellach i ffwrdd”.

Dywedodd Alistair Neall, ei chydweithiwr sy’n cynrychioli Gobion Fawr, ei fod yn poeni y byddai’r tâl yn cynyddu.

“Efallai y bydd yn dechrau ar 50 ceiniog y noson, sy’n £2.50 i deulu o bump, ond pa mor fuan y byddai’n £2.50 neu’n £3?”

‘Pryder a gofid’

Fe wnaeth y Cynghorydd Paul Griffiths, sy’n cynrychioli Castell Cas-gwent a Larkfield, fod y cynnig wedi achosi “pryder a gofid” i weithredwyr twristiaeth lleol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod Llywodraeth Cymru’n dal i ymchwilio ac ymgynghori ar ardoll posib, ac nad oes penderfyniad wedi’i wneud am raddfa unrhyw dâl.

Mae Awdurdod Refeniw Cymru hefyd yn treulio’r flwyddyn nesaf yn ymchwilio i sut y gellid gweinyddu tâl, a fydd yr ymchwil ddim yn dod i ben tan “ymhell i mewn i 2024”, a dydy hi ddim yn debygol y bydd mesur i gyflwyno treth fel rhan o’r gyfraith yn dod cyn 2026.

Dywedodd nad oes “dim amheuaeth” y byddai’n rhaid i’r Cyngor gwblhau eu hymgynghoriad eu hunain wedyn pe bai eisiau cyflwyno tâl, a’i fod yn amau y byddai’n rhaid rhoi blwyddyn o rybudd.

“Dw i’n gallu dweud wrth weithredwyr busnseau, os oes ardoll am fod yna mae’n annhebygol y bydd yn rhaid iddyn nhw ei godi, beth bynnag y bydd e, cyn oddeutu 2029.

“Heddiw, mae gennym ni gynnig sy’n atal yr holl ddadl honno, yr holl ystyriaeth honno, ac sy’n dweud y byddwn ni bellach yn penderfynu na fydd trafodaeth yn Sir Fynwy.

“Mae’n gynnig abswrd, a dw i wir yn difaru na fyddai’n cael ei dynnu’n ôl, ond fydd e ddim oherwydd yr etholiad cyffredinol, ac mae’r cynnig hwn ar y bwrdd fel darn o lecsiyna yn unig ar gyfer etholiad y tu allan i’r siambr yma.”

Cafodd y cynnig i wfftio ardoll ymwelwyr yn Sir Fynwy ei drechu, gyda dim ond pymtheg o Geidwadwyr yn pleidleisio o blaid gwneud hynny.

Pe bai’r gwelliant wedi cael ei dderbyn, byddai’r Cyngor wedi mabwysiadu’r safbwynt yma oni bai bod polisi newydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’i dderbyn.