Mae meddygon teulu yng Nghymru yn galw am gymorth brys gan y Llywodraeth, wrth iddyn nhw wynebu pwysau cynyddol.
Daw’r alwad gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA), sef yr undeb llafur ar gyfer meddygon a myfyrwyr meddygol yn y Deyrnas Unedig.
Maen nhw wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o gyllid, ynghyd â chymorth ychwanegol ar gyfer staff.
Yn ôl ystadegau’r BMA, mae nifer y meddygfeydd teulu yng Nghymru wedi gostwng gan 18%, o 470 i 386, dros y degawd diwethaf.
Er hynny, bu cynnydd o 93,317 – neu 2.9% – yn nifer y cleifion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu.
‘Dim syndod’
Mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud “nad yw’n syndod” o ystyried fod “record o danfuddsoddi cyfresol a chamreolaeth”.
“Mae Cymru’n derbyn £1.20 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar iechyd yn Lloegr, ond dim ond yn gwario £1.05, a Llafur yw’r unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd erioed wedi torri cyllideb iechyd, nid unwaith, ond ddwywaith,” medai.
“Felly nid yw’n syndod bod Cymru wedi colli dros 20% o’n meddygon teulu a bron i 20% o’n practisau meddygon teulu yn y degawd diwethaf.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llafur i weithredu ein galwad am gynllun cadw a recriwtio cynhwysfawr i adfer gweithlu’r gwasanaeth iechyd, gydag ad-daliad ffioedd dysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy’n aros yng Nghymru am 5 mlynedd ar ôl eu hastudiaethau yn ganolog iddo.”
Canfu arolwg y BMA, gafodd ei ateb gan 240 o’r 386 meddygfa teulu yng Nghymru, fod 80% yn pryderu bod y llwyth gwaith trwm yn amharu ar ansawdd gofal y cleifion.
‘Gwerthfawrogi’r gwaith’
Yn ddiweddar, cafodd gwasanaeth 111 ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a chafodd opsiwn newydd ei ychwanegu ar gyfer ymdrin â galwadau iechyd meddwl.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae meddygon teulu – a’r holl staff gofal iechyd mewn meddygfeydd – yn ei wneud bob dydd,” meddai llefarydd.
“Rydym yn parhau i gymryd camau i leihau’r pwysau ar feddygon teulu, megis cyflwyno GIG 111 Cymru a chynyddu’r ystod o wasanaethau y gall fferyllwyr cymunedol eu darparu.
“Bydd y contract meddygon teulu unedig newydd yn helpu i leihau biwrocratiaeth ac yn rhyddhau mwy o amser i feddygon teulu weld cleifion.”
Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n gweithio mewn meddygfa yn Rhondda Cynon Taf.
Dywed fod angen gweld ailstrwythuro o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn gwneud y defnydd mwyaf o’r adnoddau sydd eisoes ar gael.
Mae’n cymryd hyd at ddeng mlynedd i ddoctor gymhwyso i fod yn feddyg teulu, meddai wrth golwg360.
“Y broblem yw er ein bod ni wedi datganoli, a bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ei ddatganoli, mae wedi cael ei gamarwain a dydyn ni heb gael y cyllid llawn y dylem ni wedi ei gael gan San Steffan,” meddai.
Dywed hefyd fod angen cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r opsiynau gofal iechyd eraill sydd ar gael.
“Mae meddygon teulu yn wych, ond nid nhw yw’r unig ateb,” meddai.
“Mae angen mwy o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg oherwydd mae cleifion yn mynd i’r adran damweiniau ac argyfyngau ar gyfer problemau mân.”