Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i adroddiad Siarter Cartrefi Cymru, sy’n cael ei lansio yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28).

Mae’r argymhelliad cyntaf, sef “Rheoli’r Farchnad Tai yng Nghymru”, yn cyd-fynd yn union ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Eiddo.

Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, mae’n “fater brys iawn” ac mae’n rhaid pasio Deddf Eiddo yn ystod y tymor seneddol presennol.

“Byddwn yn gosod posteri mawr yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau’r Llywodraeth, a daw y neges yn weladwy wedyn trwy’r wlad yn arwain at rali fawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ar ddydd Mercher, Awst 9.”

‘Amheuon wedi cynyddu’

Yn ôl llefarydd ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, mae eu pryderon wedi cynyddu yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford na fydd Bil Eiddo gerbron y Senedd dros y flwyddyn nesaf.

“Rhaid i ni gynyddu’r ymgyrch i sicrhau fod Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi’n fuan a bod Bil o flaen y Senedd yn ystod y tymor hwn, yn 2024-25,” meddai.

“Dywed Mark Drakeford fod angen rhoi ‘pobol o flaen elw’ wrth gyflwyno Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau, ac y mae’r un angen o ran rheoli’r farchnad dai.”