Bydd Cymru Masnach Deg yn dathlu pymtheg mlynedd fis nesaf ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg gynta’r byd.
I ddathlu’r achlysur ar Orffennaf 11, mae Cymru Masnach Deg a Llywodraeth Cymru am gynnal digwyddiad arbennig yn y Senedd.
Maen nhw’n annog ymgyrchwyr ac aelodau’r cyhoedd ehangach i ymweld â’r Senedd.
Fel rhan o’r dathliadau, bydd mynychwyr yn cael clywed am lwyddiannau’r gorffennol, y cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac ymweld â stondinau rhyngweithiol o bob cwr o’r wlad dros ginio.
Nod Cymru Masnach Deg yw cefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru, sy’n cynnwys 30 o gymunedau, 200 o ysgolion, a miloedd o siopwyr a busnesau.
Mae Masnach Deg yn fudiad llawr gwlad, sy’n sicrhau bod cynhyrchwyr ar ddechrau’r gadwyn gyflenwi yn derbyn gwell incwm, amodau gwaith mwy diogel, a safonau amgylcheddol uwch.
‘Diolch am gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd’
Yn 2008, fe wnaeth Cymru ymrwymiad i gefnogi ffordd fwy teg o fasnachu.
Gweithiodd ymgyrchwyr, grwpiau ffydd, ysgolion, prifysgolion a manwerthwyr gyda’i gilydd i hyrwyddo’r neges Masnach Deg.
Arweiniodd hyn at Gymru’n dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd y flwyddyn honno.
“Rydym wrth ein bodd yn dathlu 15 mlynedd fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd ac i arddangos pwysigrwydd arferion Masnach Deg wrth greu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy,” meddai Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg.
“Hoffem ddiolch i’r cyhoedd yng Nghymru am gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd, ac rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn.”
Yn ôl Jenny Pye o Fangor, mae Cymru “wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg yng Nghymru i 92%”.
“Rydym yn parhau i godi’r pwysigrwydd o ddewis cynnyrch Masnach Deg i helpu cynhyrchwyr a chymunedau ffermio bach ar draws y byd,” meddai.