Mae un arall o gyn-weinidogion Catalwnia gerbron llys heddiw (dydd Mercher, Mehefin 28).
Mae Miquel Buch wedi’i gyhuddo o gyflogi plismon i warchod Carles Puigdemont, y cyn-arweinydd, tra ei fod e’n alltud yng Ngwlad Belg.
Mae erlynwyr yn galw am ddedfryd o chwe blynedd o garchar, a gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus am 25 mlynedd.
Fe fu Puigdemont yn alltud yng Ngwlad Belg ers y refferendwm yn 2017, gafodd ei ystyried yn un anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Tua 30 o arweinwyr gwleidyddol Catalwnia am fynd gerbron llys
Daw hyn yn sgil gweithredoedd tramor a’r ymgyrch tros annibyniaeth