Ar Dachwedd 17 eleni, fe fydd Llys Archwilwyr Sbaen yn dechrau achos yn erbyn tua 30 o unigolion fu’n arweinwyr gwleidyddol yng Nghatalwnia dros y degawd diwethaf.

Daw hyn yn sgil gweithredoedd tramor rhwng 2011 a 2017, a’r ymgyrch tros annibyniaeth arweiniodd at refferendwm “anghyfansoddiadol” yn 2017.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u galw i’r doc mae’r cyn-arlywyddion Artur Mas a Carles Puigdemont.

Mae Puigdemont yn alltud ers 2017, a does dim disgwyl y bydd e’n bresennol yn y llys oni bai ei fod yn dychwelyd adref am y tro cyntaf ers chwe blynedd.

Mae’n bosib y gallai ymddangos gerbron y llys trwy gyswllt fideo.

Bydd Oriol Junqueras, y cyn-ddirprwy arlywydd a gweinidog yr economi, hefyd yn mynd gerbron y llys, ynghyd â nifer o uwch-swyddogion eraill.

Bydd yr achos yn canolbwyntio ar gostau’r llywodraeth yn y blynyddoedd cyn refferendwm 2017, a’r ymdrechion i geisio cefnogaeth gan wledydd eraill.

Yn ôl erlynwyr, cafodd 3.1m Ewro ei wario ar yr ymgyrch i geisio cefnogaeth gwledydd eraill.

Mae’r ddadl fod gan rai gwleidyddion imiwnedd rhag gorfod mynd i’r llys wedi methu, yn ogystal â’r ddadl fod y gwleidyddion wedi wynebu’r un cyhuddiadau yn y gorffennol sy’n golygu na allan nhw fynd gerbron llys eto.