Dim ond rhyw 2,300 o bobol sy’n byw yn y Felinheli, ond mae gŵyl fawr flynyddol yn cael ei chynnal yno rhwng Mehefin 23 a Gorffennaf 1.
Yn rhan o’r arlwy eleni mae gŵyl gwrw Almaenig, Stomp, sesiwn hwylio am ddim, sesiwn addurno, Oedfa a sesiwn ioga.
Roedd twrnament golff hefyd wedi’i gynnal ar drothwy’r ŵyl.
Cafodd pabell fawr ei chodi ar lawnt y pentref ar lannau’r Fenai ddydd Iau, Mehefin 22, ar noswyl yr ŵyl.
Yn ystod yr wythnos hefyd, mae’r ysgol gynradd leol yn perfformio eu sioe eu hunain, mae Helfa Drysor ar droed, diwrnod wedi ei neilltuo i henoed y pentref, noson bingo, dwy sesiwn ddawnsio, cwis, ras 10k, a cherddoriaeth fyw ar lan y môr.
Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda Noson Lawen, noson gomedi ac adloniant ar nos Wener, Mehefin 30, a Diwrnod y Carnifal ei hun ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1.
Ar y dydd Sadwrn olaf, bydd Bwncath a Morgan Elwy yn perfformio, ac am y tro cyntaf bydd pentref bwyd ar y safle.
Hanes yr ŵyl
Yn ôl aelod o’r pwyllgor, mae gan Ŵyl y Felinheli hanes hir.
Roedd carnifal pentref traddodiadol yn bod cyn yr ŵyl yn ei ffurf bresennol, ac fe ddatblygodd y carnifal o’r regatta, gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1873.
Gyda newidiadau a gwelliannau eleni, bydd aelodau newydd y pwyllgor sy’n dod o gefndir celfyddydol yn gwneud yn siŵr bod datblygiadau celfyddydol gweladwy.
“Rydym yn lwcus iawn o gael aelodau newydd ar y pwyllgor eleni sy’n dod o bersbectif celfyddydol, sy’n dod a llawer o gelfyddyd weledol i faes y gwŷl blwyddyn yma am y tro cyntaf,” meddai Osian Owen, sy’n aelod o’r pwyllgor, wrth golwg360.
“Mae hynny’n rywbeth eithaf cyffrous.
“Er mwyn paratoi’r gwaith yna, maen nhw wedi tynnu llawer o blant a phobol ifanc i mewn i wneud y gwaith paentio er mwyn gwneud maes yr ŵyl yn fwy deniadol yn weledol, yn fwy celfyddydol.
“Rydym hefyd wedi cael digwyddiadau blwyddyn yma.
“Y prif un ydy’r ŵyl gwrw Almaenig gafodd ei chynnal, lle mae cwrw Almaenig, bwyd Almaenig a cherddoriaeth.
“Roedd yn rhywbeth difyr, gwahanol.
“Mae o’n hawdd i’r un digwyddiadau gael eu cynnal bob blwyddyn.
“Roedd yn grêt cael aelodau newydd o’r pwyllgor i roi dipyn bach o waed ifanc.”
Dod yn ôl i drefn ar ôl Covid
Er bod yr ŵyl wedi gorfod cael ei chanslo dwywaith oherwydd y cyfnod clo, mae pethau’n well nag erioed rŵan.
“Rydyn ni’n lwcus iawn,” meddai.
“Cafwyd dwy flynedd ble cafodd yr ŵyl ei chanslo.
“Hefyd, mae gennym ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn hefyd, nid jest yr ŵyl.
“Mae gennym ddigwyddiad Pasg a Nadolig.
“Rydym yn ffodus iawn, mae pethau wedi mynd ’nôl fel oedden nhw cyn Covid.
“Mae pethau wedi newid, mae elfennau newydd.
“Rydym yn lwcus bo ni wedi dod ’nôl mewn full force, os lici di.”
Gŵyl i’r gymuned
Er mai gŵyl leol ydy hi, mae pobol sydd wedi gadael y pentref a’r gymuned yn teithio yn bell i ddod i’r wŷl.
“Mae o’n rhan bwysig o galendr y pentref rŵan ers degawdau, oherwydd mae’n gyfle i ddod â phawb yn y pentref at ei gilydd,” meddai.
“Mae yna boblogaeth amrywiol iawn yn Felin o ran oed.
“Mae yna lawer o bobol rwy’ ddim ond yn gweld unwaith y flwyddyn, yng Ngŵyl y Felin.
“Mae’n gyfle gwych i gymdeithasu efo’n gilydd.
“Gŵyl i’r gymuned ydy hi, gŵyl i’r pentref.
“Mae gennyf i chwaer, er enghraifft, sydd heb fyw yn Felin ers pymtheg mlynedd a bydd hi yma ar gyfer y penwythnos olaf.
“Mae’n dangos faint o werthfawrogiad sydd gan bobol o’r digwyddiad yna.”
Os ydy pobol eisiau cymryd rhan efo fflôt ar ddiwrnod y carnifal, mae amser o hyd i wneud hynny ac mae yna docynnau ar werth ar gyfer y noson lawen o hyd.