Mae canolfan ymwelwyr newydd wedi cael ei hagor ym Mharc Gwledig y Morglawdd Caergybi, sydd wedi ennill gwobrau fel rhan o gynllun Cymru gyfan i greu a gwella cyfleusterau allweddol i ymwelwyr.

Mae’r ganolfan newydd yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach i wella apêl a phrofiad ymwelwyr yng Nghaergybi, sy’n gweld y nifer uchaf erioed o ymweliadau gan longau mordaith yn 2023 gyda mwy ar y gweill yn 2024.

Yn ogystal â darparu ar gyfer ymwelwyr, bydd y cyfleuster yn cynnal digwyddiadau ac ymweliadau addysgol, a bydd hefyd yn cael ei defnyddio gan staff tîm Cefn Gwlad ac AHNE yr awdurdod lleol.

Mae’r cynllun hefyd wedi ariannu uwchraddio ciosg Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gerllaw.

Agor y cyfleuster

Wrth agor y cyfleuster newydd yn swyddogol, dywedodd deilydd portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, y Cynghorydd Neville Evans ei fod yn “gyfleuster gwirioneddol wych fydd yn cefnogi’r nodau yn ein Cynllun Rheoli Cyrchfan a’n Cynllun Rheoli AHNE”.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â chynllunio, darparu ac ariannu’r adeilad trawiadol hwn a’r cyfleusterau eraill sydd wedi’u gwella,” meddai mewn datganiad.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod twristiaeth yn hanfodol bwysig mewn trefi fel Caergybi, sydd wedi dioddef am sawl rheswm, ac mae’n dweud bod llongau mordaith yn rhan allweddol o ddenu twristiaid i’r ardal.

“Rwy’n credu bod twristiaeth yn hanfodol wrth chwarae rôl allweddol mewn llefydd fel Caergybi, sydd wedi dioddef llawer yn y blynyddoedd diwethaf, yn sicr, ar ôl i rai o’r gweithfeydd mawr pwysig gau a diffyg swyddi yn lleol a’r ffaith bod y Stryd Fawr wedi dioddef dros y blynyddoedd hefyd,” meddai.

“Wedyn, mae cael atyniadau twristiaeth yn sicr o fudd i bobol leol hefyd ond mae denu twristiaeth i Gaergybi yn allweddol bwysig.

“Rydym wedi gweld yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, nifer o longau mordaith yn dod mewn.

“Mae yna 50 a mwy i ddod mewn yn ystod y flwyddyn yma.

“Mae nifer ohonynt yn mynd ar fysus i atyniadau eraill ar yr ynys a thu hwnt.

“Mae’r canran mwyaf, o beth rwy’n deall, yn aros yng Nghaergybi ac yn mynd i lefydd fel Parc y Morglawdd, ac yn mynd i Eglwys Cybi a hefyd i’r gaer Rufeinig.

“Mae denu twristiaeth i mewn i’r dref yn hanfodol bwysig o ran economi’r dref.

“Ges i’r cyfle fel y deilydd portffolio newydd ar gyfer twristiaeth i fynd ar un o’r llongau mordaith a chwrdd â’r capten, a’r criw a’r bobol oedd yn ymweld ac Ynys Môn, sef y llong Queen Victoria y tro cyntaf iddi hi ddod mewn i Gaergybi.

“Cefais weld efo fy llygaid fy hun faint o bobol oedd yn dod oddi ar y llong yna ac yn mynd ar fysus i’r dref.

“Wrth gwrs, mae yna rai yn mynd tu hwnt ond mae yna nifer ohonyn nhw yn mynd ar deithiau cerdded o amgylch Caergybi ac yn ymweld â’r gwahanol lefydd yma fel Parc y Morglawdd, fel yr Eglwys, fel y gaer Rufeinig, ac wrth gwrs yn mynd i’r dref ei hun.”

Gwelliannau a newidiadau eraill

Yn rhan o’r gwaith ehangach, mae gwelliannau a newidiadau wedi cael eu gwneud mewn llefydd eraill yn Ynys Gybi.

Cafodd y pecyn buddsoddi cyffredinol o £2.8m gyda phrosiectau amrywiol ei ariannu yn bennaf gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â’r gyllideb hwn, mae cyllideb ychwanegol wedi’i gael i ddatblygu Ynys Gybi.

“Mae gwelliannau i atyniadau a chyfleusterau llai ar Ynys Gybi yn hanfodol bwysig,” meddai Neville Evans wedyn.

“Fel rhan o’r gwaith yma, nid yn unig mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi cael ei hadnewyddu.

“Mae yna welliannau a newidiadau eraill wedi cael eu gwneud, fel toiledau cyhoeddus yng nghanol Caergybi sydd wedi cael eu hail-drin i gyd ac yn hollol fodern.

“Mae yna blatfform gwylio wedi cael ei adeiladu yn y gaer Rufeinig, yn edrych dros y porthladd.

“Mae hwnna’n bwysig i bobol.”

Atyniadau a chyfleusterau llai

Yn ogystal â’r buddsoddiadau ym Mharc y Morglawdd, mae’r cynllun yn cynnwys gwelliannau i atyniadau a chyfleusterau llai ar Ynys Gybi.

Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau i Wylfa Ynys Lawd, Tŵr Elin, Ffynnon y Wrach, arwyddion a delweddau cyfeirio ymwelwyr newydd yn y dref a’r derfynfa fferi, cyfleusterau ymwelwyr wedi’u huwchraddio a llwyfan gwylio newydd yn y Gaer Rufeinig.

Mae Cyngor Tref Caergybi wedi cefnogi’r cynlluniau, a byddan nhw’n ymwneud â chynnal a chadw llawer o’r gosodiadau.

“Mae’r package i gyd wedi costio £2.8m,” meddai Neville Evans.

“Arian grant oedd hwnnw i gyd, wrth gwrs.

“Mae’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn bwysig iawn i dref fel Caergybi sydd wedi dioddef yn sylweddol oherwydd gweithfeydd wedi cau, Y Stryd Fawr, nifer o siopau wedi cau.

“Mae cael atyniadau twristiaeth ac atynnu pobol yn ôl mewn i’r dref yn hanfodol bwysig.

“Rhaid i ni gofio, mae yna becyn arall o arian wedi’i gael i wella Caergybi yn ddiweddar iawn, sef dros £20m trwy’r Levelling Up Fund.

“Bydd hwnna hefyd yn cyfrannu.”