Fe fydd gorymdaith tros annibyniaeth i Gernyw yn cael ei chynnal fis nesaf, wrth i gerddorion ac aelodau o sefydliadau sy’n gweithio i liniaru’r heriau sy’n wynebu pobol Cernyw gymryd rhan yn y digwyddiad.
Y bwriad yw cyfarfod ar Stryd Barras yn Lyskerrys (Liskeard) am 10:30yb ar Orffennaf 8, gan adael am 11 o’r gloch.
Yn ôl y mudiad Pawb Dan Un Faner, sy’n trefnu’r orymdaith, mae Cernyw yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o ddydd i ddydd, a “byddai hunanlywodraeth, y mae gan Gernyw’r hawl hanesyddol iddi, yn galluogi ei phobol i adfywio democratiaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn”.
“Dyma ein hail ddigwyddiad eleni – roedd ein gyntaf yn Bosvenegh (Bodmin) ym mis Mawrth ac roedd hwnnw’n llwyddiannus,” meddai James Ball, cadeirydd y grŵp Pawb Dan un Faner Cernyw, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n gobeithio parhau gyda hyn yn Lyskerrys ar Orffennaf 8.
“Rydan ni wedi gosod allan be rydan ni eisiau – rydan ni eisiau senedd i Gernyw.
“Rydyn ni eisiau gallu gwneud penderfyniadau lawr yng Nghernyw ar gyfer pobol Cernyw, fel eu bod nhw ddim yn cael eu gwneud gan San Steffan, sydd heb glem am Gernyw nac unrhyw beth fel yna.
“Dydyn nhw ddim yn deall Cernyw.
“Maen nhw jest yn defnyddio Cernyw fel peiriant pres.”
‘Maes chwarae ar gyfer gwyliau’
“Mae hyrwyddo Cernyw yn allanol fel maes chwarae ar gyfer gwyliau yn tynnu swyddi a chartrefi oddi ar bobol leol, ac yn mynd â llewyrch economaidd allan o Gernyw,” yn ôl Pawb Dan Un Faner Cernyw.
“Mae’n disodli diwydiant a masnach wirioneddol gan swyddi dros dro sy’n talu’n isel ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
“Does gan y Stryd Fawr ddim siopau bellach i ddiwallu anghenion y gymuned, ond yn hytrach yn darparu ar gyfer pobol ar eu gwyliau.
“Dydy’r gefnogaeth strwythurol ddim yn ddigonol i alluogi pobol Gernywaidd i aros a chynnal eu hunain neu i fagu eu teuluoedd.
“Mae digwyddiadau lleol a oedd unwaith yn draddodiadol ac wedi’u harwain o’r gymuned wedi’u troi’n gyfleoedd masnachol ar gyfer pobol o’r tu allan.
“Ar yr un pryd, mae hunaniaeth unigryw’r bobol Gernywaidd wedi’i datgan o dan Fframwaith Ewropeaidd y Comisiwn Gwarchod Lleiafrifoedd Cenedlaethol.
“Mae ei hiaith a’i hanes yn cael eu dilorni a’u dileu mewn ymdrech i wneud i Gernyw ymddangos yn rhan o Loegr yn unig.
“Mae mannau gwyrdd a pharciau hanesyddol mewn trefi a phentrefi wedi cael eu datblygu i alluogi ail gartrefi, sy’n wag ran fwya’r flwyddyn, i ddominyddu cymunedau.”
Effaith gwrthod cynlluniau ar gyfer Maer i Gernyw
Roedd gan Gyngor Cernyw gynlluniau i fynd ar drywydd cytundeb datganoli gyda maer etholedig.
Ond, ym mis Ebrill eleni, cafodd y cynlluniau eu diddymu.
Yn wreiddiol, roedd y Cyngor Ceidwadol wedi cefnogi cynlluniau’r llywodraeth i ddatganoli pwerau a rhoi mwy o arian i Gernyw, ond roedd cael maer yn un o amodau’r cynnig.
“Roedd gennym Faer dros Gernyw y ceisiwyd ei wthio arnom,” meddai James Ball.
“Yn ffodus, fe lwyddon ni i daflu hynny allan.
“Ond yr hyn mae hynny wedi’i wneud yw dechrau’r sgwrs dros ddatganoli go iawn i Gernyw.
“Mae pobol yn dechrau deall y gallwn ni wneud ein penderfyniadau i lawr yma all fod o fudd i holl bobol Cernyw.
“Ers taflu’r Maer allan, rydym wedi cael lot mwy o ddiddordeb ar gyfryngau cymdeithasol ac mae pobol wedi dechrau gofyn lot mwy o gwestiynau.”
Dim diddordeb gan y Ceidwadwyr
Cyn pob rali, mae’r mudiad yn gyrru gwahoddiad i holl Aelodau Seneddol Cernyw fynychu a siarad yn y digwyddiad, ond prin yw’r ymateb, meddai James Ball.
“Yn anffodus, dydy nifer ddim yn dod i siarad, ac yn amlwg mae’r rali yma reit y tu allan i swyddfa Sheryll Murray,” meddai.
“Rydyn ni wedi gyrru gwahoddiad iddi, ond yn anffodus mae hi wedi gwrthod ein gwahoddiad.
“Maen nhw i gyd yn Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghernyw, felly dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw ddiddordeb.
“Pan rydyn ni wedi cynnal ralïau yn Kammbronn (Camborne), rydyn ni wedi gwahodd George Eustice i ddod – dydy o ddim yn dangos unrhyw ddiddordeb mewn mynychu.
“Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn ymgysylltu â ni.
“Dydw i ddim yn siŵr os ydyn nhw’n ofni beth allai ddigwydd os ydyn nhw’n troi fyny, oherwydd dydy eu plaid ddim yn gefnogol i ddatganoli i Gernyw.”
Galw am dreth twristiaeth
Ar ddechrau’r tymor twristiaid yng Nghernyw, mae trigolion yn bryderus am effaith ymwelwyr ar yr amodau sydd wedi arwain at y gwaharddiad ar bibellau dyfrio ar hyn o bryd.
“Ein pryder mwyaf i Gernyw ar hyn o bryd yw ein bod ni mewn gwaharddiad pibellau dyfrio a bod ein cronfeydd dŵr o dan 70%,” meddai James Ball wedyn.
“Ein pryder yw bod gennym ni’r holl dwristiaid yn dod i lawr a defnyddio ein dŵr mewn modd gwastraffus.
“Does dim byd yn cael ei wneud amdano byth.
“Un peth rydyn ni’n dechrau galw amdani yw treth dwristiaeth, oherwydd mae’n annheg fod pobol Cernyw yn talu i dwristiaid ddefnyddio’r dŵr.”