Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn galw am gyfiawnder a chydnabyddiaeth i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig a’u teuluoedd.

Mae’r sgandal wedi’i disgrifio fel un o’r trychinebau triniaeth mwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’n “hen bryd” i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddigolledu dioddefwyr a’u teuluoedd “heb unrhyw oedi pellach”.

Cyfeiriodd hi at achosion Judith Thomas a Ruth Jenkins o Ben Llŷn, gwraig Christopher Thomas, fu farw yn 1990 ar ôl cael ei heintio.

Maen nhw’n ymgyrchu ers tro am gyfiawnder i’r rhai gafodd eu heffeithio gan y sgandal.

Yn ystod y 1970au a’r 1980au, cafodd gwaed wedi’i heintio â firysau HIV a hepatitis ei roi i bobol oedd yn dioddef o hemoffilia ac anhwylderau gwaedu eraill.

Mae lle i gredu bod hyd at 30,000 o bobol wedi’u heffeithio, a bron i 3,000 wedi marw.

‘Ni ddylai fod oedi pellach’

“Mae’r Fonesig Diana Johnson AS yn wirioneddol i’w llongyfarch ar ran pawb sydd wedi bod yn ymgyrchu cyhyd, gan gynnwys Judith Thomas a Ruth Jenkins, gwraig a chwaer Christopher Thomas o Ben Llŷn a fu farw o effeithiau gwaed halogedig yn 1990,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae nhw am i mi bwysleisio na ddylai fod unrhyw oedi pellach.

“Gwyddom o’r adroddiad interim beth fydd yr argymhellion.

“Maen nhw am i mi bwysleisio’n benodol bod y sgandal gwaed heintiedig wedi digwydd cyn datganoli iechyd i Gymru.

“Oherwydd hyn, mae’n rhaid i’r pwerau a’r cyfrifoldeb ariannol i gyflawni cynllun iawndal orwedd yma gyda llywodraeth San Steffan.

“Yn dorcalonnus, nid yw llawer o’r rhai sydd wedi’u heintio wedi byw i weld y gobaith o gyfiawnder priodol.

“Wrth i ni aros am ddiwedd yr ymchwiliad, mae un person yn marw bob pedwar diwrnod.

“Bob dydd y byddwn yn gohirio’r iawndal, mae cyfiawnder yn cael ei wrthod i’r bobol hynny.

“Cafodd y sgandal gwaed halogedig effaith a newidiodd bywydau degau o filoedd o ddioddefwyr yr addawyd gobaith o driniaeth effeithiol iddynt.

“Mae’n gwbl gyfiawn eu bod nhw a’u hanwyliaid yn gweld y cyfiawnder y maent yn ei haeddu cyn gynted â phosibl.”