Mae honiadau bod rhieni’n dewis peidio anfon eu plant i ysgolion Cymraeg o ganlyniad i deithiau bws o fwy nag awr bob ffordd.

Mae’n rhaid i blant sy’n mynd i Ysgol y Ffin yng Nghil-y-coed neu i Ysgol y Fenni deithio naill ai i Ysgol Gwent Is Coed yng Nghasnewydd neu i ysgol uwchradd Gymraeg hyna’r ardal, Ysgol Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, er mwyn parhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel uwchradd.

Ond mae hynny’n golygu bod rhieni’n penderfynu peidio rhoi eu plant ar fws “am oriau”, yn ôl Tudor Thomas, Cynghorydd Parc y Fenni, sy’n dweud bod dwy ysgol gynradd yn “gwaedu” plant sy’n siarad Cymraeg.

Dywed y Cynghorydd Llafur, oedd wedi gadael y Cabinet yn dilyn ad-drefnu ym mis Mai, ei fod e “wedi siomi” na fydd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn dechrau yn Nhrefynwy ym mis Medi eleni, fel yr oedd y Cabinet wedi’i gytuno ym mis Ionawr, a bod yna oedi o ddeuddeg mis.

“Dw i wedi fy siomi’n fawr fod dosbarth dibynnol wedi’i ohirio ac na fydd yn agor ym mis Medi 2023, fel yr oedd nifer o rieni a Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi’i obeithio.

“Cafodd yr arian ei roi yn 2017, ac mae hi bellach yn 2023 a dydy hi ddim wedi agor.

“Dw i’n sicr yn gobeithio y bydd peth symud dros y flwyddyn nesaf ac, yn fy marn i, bydd hi’n allweddol sefydlu Cylch Meithrin yn Nhrefynwy fis Medi yma, o’r diwedd, er mwyn bwydo’r ysgol newydd.”

Yn gynharach y mis yma, dywedodd Cabinet Llafur Sir Fynwy eu bod nhw wedi dileu’r cynlluniau i agor dosbarth dibynnol yn Ysgol y Ffin yn Nhrefynwy ym mis Medi, ar ôl i dri phlentyn yn unig gofrestru cyn y dyddiad cau ym mis Ionawr, ond maen nhw wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol o’u bwriad i agor ysgol newydd yn y dref o fis Medi 2024.

Bydd yn agor gyda dosbarth egin yn Ysgol Gynradd Overmonnow, ysgol gynradd Saesneg, gyda’r bwriad y bydd yr ysgol yn tyfu fesul dosbarth bob blwyddyn.

Diffyg ysgol uwchradd yn tarfu ar yr iaith

Er gwaetha’r bwriad i sefydlu trydedd ysgol gynradd Gymraeg, dywed y Cynghorydd Tudor Thomas ei fod yn ofni bod datblygiad yr iaith yn cael ei atal gan nad oes ysgol uwchradd Gymraeg yn y sir.

“Y pryder arall sydd gen i, a rhieni plant mewn darpariaeth Gymraeg, yw’r ffaith mai Cyngor Sir Fynwy yw’r unig awdurdod yng Nghymru, allan o’r 22 awdurdod lleol, sydd heb ysgol uwchradd Gymraeg a bod yn rhaid i ni eu hanfon nhw allan o’r sir.”

Dywed iddo gymryd rhan mewn rhaglen ar S4C, a bod disgyblion Ysgol Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, sy’n gwasanaethu Sir Fynwy, wedi cwyno am y teithio sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud.

“Siaradon nhw’n huawdl am yr amserau teithio hir maen nhw’n eu profi, a rhai ohonyn nhw’n teithio dros awr a deng munud bob ffordd,” meddai.

“Mae dwy awr ac ugain munud ar fws, hyd yn oed i ddisgybl ysgol uwchradd, yn ormod ac mae’n effeithio ar yr egni sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â diwrnod llawn yn yr ysgol, i wneud eu gwaith cartref ac i adolygu.

“Yr hyn sydd ei angen, dw i’n gofyn, beth yw’r cynlluniau yn nhermau sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghyngor Sir Fynwy?

“Mae colli disgyblion yn digwydd rhwng y ddwy ysgol gynradd Gymraeg hynod lwyddiannus.

“Mae’r gwaedu’n digwydd yn bennaf o ganlyniad i’r amserau teithio hir.

“Dydy pobol ddim eisiau rhoi eu plant ar y bws am oriau maith.”

Tair sir heb ysgol uwchradd Gymraeg

Dywedodd y Cyngor yn y gorffennol eu bod nhw’n trafod y posibilrwydd o sefydlu ysgol uwchradd ar y cyd â chynghorau sir Powys a Blaenau Gwent.

Mae’r tri chyngor heb ysgol uwchradd Gymraeg ar hyn o bryd.

“Mae hi allan yna fod pobol yn gofyn i fi pryd mae hi am ddod?” meddai’r Cynghorydd Tudor Thomas.

Dywed Will McLean, pennaeth plant a phobol ifanc y Cyngor, ei fod yn “uchelgais” cael ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Fynwy, ond hyd yn oed ar ddiwedd eu Cynllun Strategol Addysg Gymraeg, yn 2032, “fyddai nifer y dysgwyr Cymraeg ddim yn ddigon i gael ysgol ddigon mawr â chwricwlwm eang”.

Dywed ei fod yn “deall y pryderon ynghylch y gwaedu o [addysg] cyfrwng Cymraeg”, ond fod y niferoedd sy’n mynd ymlaen i lefel uwchradd yn codi, gyda disgwyl y bydd 27 yn symud ymlaen ym mis Medi, o gymharu â 24 ddwy flynedd yn ôl.

“Rydyn ni’n cydweithio â chydweithwyr ym Mlaenau Gwent a Phowys ar ardal Blaenau’r Cymoedd ac o ran a oes datrysiad posib yno,” meddai’r swyddog am y cynlluniau â’r cynghorau cyfagos.

Pryderon am gadw athrawon

Dywed Tony Easson, y Cynghorydd Llafur yn Llanddewi, ei fod yn poeni am gadw athrawon cyfrwng Cymraeg, tra bod Tomos Davies, yr Aelod Ceidwadol dros Lanfoist a Gofilon, ei fod yn poeni am unrhyw oedi posib cyn sefydlu’r Cylch Meithrin yn Nhrefynwy.

Dywed Will McLean fod y Cyngor yn gwneud “popeth allwn ni” i sicrhau bod y ddarpariaeth cyn-ysgol annibynnol yn cael ei sefydlu, ond mae’r anawsterau’n tanlinellu’r heriau recriwtio gan fod y lleoliad blaenorol wedi cau ar ôl i’w arweinydd adael.

Dywed fod y cynllun strategol yn cydnabod fod recriwtio’n her, a dywed ei bod hi’n fwy anodd yno na rhannau eraill o Gymru heb “gytrefi naturiol â lefel uchel o Gymraeg yn cael ei siarad”, a dywed fod angen i Ysgol y Fenni ac Ysgol y Ffin fod yn “ddeniadol iawn i athrawon”.

Dywed y Cynghorydd Tudor Thomas y byddai ysgol uwchradd Gymraeg yn hwb i argaeledd athrawon a staff eraill posib sy’n rhugl yn y Gymraeg.

“Yn y bôn, os ydyn ni am ddatrys problem athrawon a staff cyfrwng Cymraeg, mae angen ni i gael ysgol uwchradd Gymraeg,” meddai.